A A A

Gwnewch rywbeth gwahanol ar Noson Tân Gwyllt eleni

Rydym yn galw ar drefnwyr digwyddiadau i gael gwared ar y tân gwyllt a dod o hyd i ffyrdd diogel a chynaliadwy o ddathlu achlysuron mawr yn lle hynny.

Efallai bod tân gwyllt yn edrych yn dda, ond mae’r elfen weledol yn fyrhoedlog, tra bod eu heffeithiau negyddol yn cael effaith bellgyrhaeddol a hirdymor ar bobl, anifeiliaid a’r amgylchedd.

Yr hydref hwn, rydym yn hybu dewisiadau amgen i arddangosfeydd tân gwyllt. O sioeau golau i goelcerthi, gorymdeithiau ffaglau tân a phartïon stryd, mae sawl ffordd o ddod â phobl ynghyd heb achosi niwed.

Beth yw’r broblem?

Mae pryderon diogelwch a’r trallod a achosir gan sŵn sydyn a fflachiadau tân gwyllt yn cael cyhoeddusrwydd mawr. Ond, mae arddangosfeydd tân gwyllt hefyd yn creu malurion sydd yn syrthio o’r awyr ar dir a dŵr cyfagos. Trwy gynnal arolygon rheolaidd, gwyddom fod hyn yn cael effaith sylweddol ar lendid ein cymunedau.

Ac mae’r effeithiau’n mynd ymhellach na’r sbwriel y gallwn ei weld ar y llawr. Gall tân gwyllt fod yn wenwynig hefyd a llygru’r aer yr ydym yn ei anadlu, gan achosi problemau i’r rheiny ag asthma neu glefydau anadlol.

Beth yw’r ateb?

Rydym yn credu y dylid hyrwyddo arddangosfeydd sy’n cael eu rhedeg yn broffesiynol fel prif ffordd o fwynhau tân gwyllt. Maent yn fwy diogel i’r cyhoedd ac mae’n haws rheoli’r sbwriel sy’n cael ei adael ar ôl.

Rydym yn cefnogi cyfyngiadau ar werthu tân gwyllt at ddefnydd preifat (yn cynnwys ar-lein) ac yn galw am labelu, gwybodaeth ac arweiniad cyhoeddus ychwanegol yn amlinellu’r risgiau a’r effeithiau.

Yn y cyfamser, rydym eisiau gweld trefnwyr digwyddiadau yn rhoi diogelwch a chynaliadwyedd gyntaf wrth drefnu dathliadau.

Mwy ar ‘sbwriel o’r awyr’

Rydym yn cyfeirio at dân gwyllt, llusernau awyr a rhyddhau balwnau fel ‘sbwriel o’r awyr’. Rydym wedi ymchwilo’n helaeth i’r eitemau hyn dros y blynyddoedd ac yn angerddol am leihau eu defnydd a’u heffaith.

Darllenwch fwy

Erthyglau cysylltiedig

Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy
Angen Cynllun Dychwelyd Ernes nawr yn fwy nag erioed

12/03/2024

Darllen mwy
Gwaharddiad ar blastigau untro – beth nesaf?

30/10/2023

Darllen mwy
#OchrauFfyrddTaclus: mynd i’r afael â sbwriel ar ochr y ffordd

20/07/2023

Darllen mwy