Pawb sy’n caru cŵn yng Nghymru!
Rydym wrth ein bodd yn lansio ein hymgyrch cenedlaethol newydd i annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a ‘gadael olion pawennau yn unig’ pan fyddwch allan gyda’ch anifeiliaid anwes.
Er bod naw allan o ddeg o berchnogion cŵn yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, mae baw cŵn yn dal yn broblem fawr ar draws y wlad. A wyddoch chi fod baw cŵn nid yn unig yn niweidio iechyd dynol, ond iechyd anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes eraill hefyd?
Gall baw cŵn sydd yn cael ei adael ar ôl gario bacteria niweidiol sydd yn gallu aros yn y pridd ymhell ar ôl iddo ddadelfennu.
Er mwyn brwydro yn erbyn baw cŵn, bydd arwyddion pinc llachar, posteri, stensiliau pawennau a sticeri bin yn ymddangos ar draws y wlad yn fuan i annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn. I’n helpu ni i arwain y ffordd, mae pum ci da iawn sydd yn hoff o’r camera wedi rhoi benthyg eu pawennau i ni ac maent wedi eu cynnwys yn ein hymgyrch!
Dyma Wilson, Ralph, Jax, Buster a Reuben…

Mae Wilson wrth ei fodd yn cael cwtsh a mwythau a phobl yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.

Mae Ralph yn dweud ‘Gall baw cŵn niweidio pobl ac anifeiliaid anwes.’

Mae Buster yn falch o’ch gweld yn glanhau ar ôl eich anifeiliaid anwes.

Mae Jax yn dweud ‘Lledaenwch y gair nid y baw’. (Pwy all ddweud na wrth yr wyneb yna?)

Mae Reuben yn dweud ‘Perchnogion call sy’n clirio ble bynnag y maent yn crwydro’.
Rydym yn llawn cyffro yn lansio’r ymgyrch pwysig hwn gyda’n partneriaid mewn awdurdodau lleol. Fel cenedl sydd yn caru cŵn, dylem i gyd fod yn ymwybodol nad llanast amhleserus yn unig yw baw ci, gall fod yn beryglus.
Rydym yn annog y lleiafrif bach o berchnogion cŵn anghyfrifol i wneud y peth iawn. Trwy beidio â chodi baw eich ci, gallech fod yn peryglu pobl, anifeiliaid fferm, a’n hanifeiliaid anwes annwyl. Bagiwch, biniwch a gadael olion pawen yn unig pan fyddwch allan.
Lesley Jones Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Lledaenwch y gair nid y baw
Mae’r ymgyrch cenedlaethol yn cael ei gynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.
Gallwch gymryd rhan yn ein hymgyrch trwy fynd i Becyn Cymorth yr Ymgyrch – siop un stop lle gallwch lawrlwytho ac addasu posteri, sticeri, graffeg cyfryngau cymdeithasol a mwy!
Rhannu ar eich rhwydweithiau chi gyda’r hashnodau #BagiwchBiniwch #CaruCymru
Parhewch i ddarllen...

Ffigurau newydd yn datgelu graddfa sbwriel yr haf ledled Cymru
Darllen rhagor
Mae 330 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru, y nifer uchaf erioed, wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Baner Werdd 2026 wrth i’r wobr ryngwladol ddathlu 30 mlynedd
Darllen rhagor
Gweinidog Cabinet a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn uno i alw am haf o godi sbwriel
Darllen rhagor








