Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi’r 73 ardal arfordirol sydd wedi bodloni’r safonau uchel sydd yn angenrheidiol i gael Gwobr y Faner las, y Wobr Arfordir Glas a’r Wobr Glan Môr.
Ar draws y wlad, mae 45 o Faneri Glas yn hedfan ar 42 o draethau a tri marina. Mae’r Faner Las eiconig yn eco label adnabyddus yn fyd-eang sydd yn eiddo i’r Foundation for Environmental Education (FEE). Ers dros dri degawd, mae’r Faner Las wedi cael effaith drawsnewidiol ar ansawdd dŵr, ymwybyddiaeth amgylcheddol, amddiffyniad, diogelwch a gwasanaethau.
Mae’r llwyddiant parhaus hwn ar draws arfordir Cymru yn ganlyniad i bawb a barhaodd i weithio yn ystod anawsterau’r llynedd ac sy’n parhau i wella a diogelu’r amgylcheddau arfordirol yma yng Nghymru.
Ni chwifiwyd unrhyw fflagiau’r llynedd yng Nghymru oherwydd cyfyngiadau COVID19, ac eleni mae’n achos go iawn i ddathlu wrth i draethau a marinas barhau i gynnal safon uchel o ansawdd dŵr, glendid ac arferion amgylcheddol yn ystod amgylchiadau heriol iawn.
Rydym yn ffodus i gael rhai o draethau a marinas gorau'r byd ar garreg ein drws. Mae'r llwyddiant yn dyst i bawb sydd wedi gweithio mor galed i amddiffyn a gwella ein traethau a chadw ein harfordir yn lân ac yn ddiogel. Gyda gwasanaethau lleol dan bwysau aruthrol oherwydd COVID-19, roedd angen i ni i gyd dynnu at ein gilydd i ofalu am ein hamgylchedd naturiol. Gobeithiwn y bydd ymwelwyr sy'n dychwelyd i'n harfordir syfrdanol yn ei drysori'n fwy nag erioed ac yn mwynhau ein traethau'n gyfrifol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n creu straeon nid sbwriel, ac yn mynd â'ch sbwriel adref gyda chi. Lesley Jones Prif Weithredwr Cadwch Cymru yn Daclus
Lesley Jones Prif Weithredwr Cadwch Cymru yn Daclus
Mae rhestr lawn o’r gwobrau ar gael isod. Neu, ewch i’n map Gwobrau Arfordir Cymru.
Yn ddiweddar, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi lansio mudiad newydd o’r enw Caru Cymru, sy’n ceisio ysbrydoli pawb i weithredu a gofalu am yr amgylchedd. Wrth ymweld â thraethau a marinas arobryn Cymru; byddwch yn gyfrifol, ewch â’ch sbwriel adref a creu straeon nid sbwriel.
19/02/2025
24/01/2025
18/10/2024
29/04/2024