A A A

Gwobrau Arfordir Cymru 2022

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi’r 53 ardal arfordirol sydd wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i dderbyn Gwobr y Faner Las, Gwobr Arfordir Glas a’r Wobr Glan Môr.

Ar draws y wlad, mae 25 o Faneri Glas yn hedfan ar 22 o draethau a thri marina. Mae’r Faner Las eiconig yn eco-label byd-enwog sydd yn eiddo i’r Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE). Am fwy na thri degawd, mae’r Faner Las wedi cael effaith drawsffurfiol ar ansawdd dŵr, diogelwch a rheolaeth amgylcheddol. Mae hefyd wedi ysbrydoli ymwybyddiaeth amgylcheddol trwy weithgareddau addysg a hybu cyfrifoldeb cymdeithasol.

Mae 23 o draethau wedi cyflawni’r Wobr Glan Môr am safon ansawdd eu dŵr a’u cyfleusterau. Mae 13 o draethau eraill yng Nghymru wedi ennill Gwobr Arfordir Glas, sy’n cydnabod y ‘trysorau cudd’ ar hyd ein harfordir.

Mae Cymru’n adnabyddus ar draws y byd am ei harfordiroedd anhygoel ac mae’r gydnabyddiaeth hon yn golygu eu bod yn parhau ar y map i fwy o bobl eu canfod. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yn arbennig, rydym i gyd wedi dod i sylweddoli pwysigrwydd mynd allan i’r awyr agored a mwynhau’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig. Mae ein traethau a’n marinas yn cynnig rhai o’r dyfroedd ymdrochi gorau yn Ewrop. Maent yno i ni eu mwynhau ond hefyd i ni eu diogelu. Wrth wynebu’r argyfyngau hinsawdd a natur, mae ar ein hysgwyddau ni bellach i ddiogelu arfordir trawiadol Cymru, gan sicrhau ein bod yn gadael dim byd ond olion traed er mwyn i faneri glas allu parhau i hedfan am genedlaethau i ddod.

Lee Waters
Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd

Mae’r llwyddiant parhaus yma ar draws arfordir Cymru o ganlyniad i waith pawb sydd yn gweithio o dan amgylchiadau heriol ac yn parhau i wella a diogelu’r amgylcheddau arfordirol yma yng Nghymru.

Rydym yn lwcus bod gennym rai o draethau a marinas gorau’r byd ar ein stepen drws. Mae’r llwyddiant yn dyst i bawb sydd wedi gweithio mor galed i ddiogelu a gwella ein traethau a chadw ein harfordir yn lân ac yn ddiogel. Ein gobaith yw y bydd pawb sy’n ymweld â’n harfordir trawiadol yn mwynhau ac yn trysori ein traethau yn gyfrifol. Cofiwch greu atgofion, nid llanast ac ewch â’ch sbwriel gartref gyda chi.

Lesley Jones
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Mae rhestr lawn o’r gwobrau ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus: www.keepwalestidy.cymru.

Nod Caru Cymru, mudiad gan Cadwch Gymru’n Daclus, yw ysbrydoli pawb i weithredu a gofalu am yr amgylchedd. Wrth ymweld â thraethau a marinas rhagorol Cymru, byddwch yn gyfrifol, ewch â’ch sbwriel gartref a chreu straeon nid sbwriel. 

Rhestr lawn o wobrau arfordir

Erthyglau cysylltiedig

Parciau Cymru’n cael eu cydnabod fel y ‘gorau o’r goreuon’

14/11/2024

Darllen mwy
Dathlu enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2024

17/09/2024

Darllen mwy
12 safle treftadaeth Cymru yn cael statws dwbl y Faner Werdd

10/09/2024

Darllen mwy
Cymru yn chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall ar draws y byd

16/07/2024

Darllen mwy