A A A

Gwobrau Arfordir Cymru 2023

Heddiw, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi derbynwyr Gwobrau Arfordir Cymru ar gyfer 2023, gan ddatgelu’r 51 ardal arfordirol sy’n cyflawni’r safonau eithriadol sydd yn angenrheidiol i dderbyn Gwobr y Faner Las, Gwobr Arfordir Gwyrdd a Gwobr Glan Môr. Eleni, mae Cymru wedi cadw nid yn unig 25 o’i thraethau Baner Las, ond hefyd 14 gwobr Arfordir Gwyrdd ac 12 Gwobr Glan Môr.

Y Faner Las yw un o wobrau mwyaf adnabyddus y byd ar gyfer traethau, marinas a chychod sydd yn eiddo i’r Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE). Cenhadaeth y rhaglen yw hyrwyddo addysg amgylcheddol, datblygiad cynaliadwy twristiaeth, systemau rheoli amgylcheddol a sicrhau diogelwch a mynediad ar gyfer defnyddwyr traethau.

Mae’n rhaid i’r 25 o draethau Cymru sydd wedi cyflawni’r wobr hon gydymffurfio â meini prawf penodol iawn yn ymwneud ag ansawdd dŵr, darparu gwybodaeth, addysg amgylcheddol, diogelwch a rheoli safle.

Yn ogystal a 25 gwobr y Faner Las, cafodd 14 o draethau yng Nghymru y Wobr Arfordir Gwyrdd hefyd yn cynnwys safle newydd Traeth Gwyn Ceinewydd, sy’n cydnabod eu hamgylchedd glân, ansawdd rhagorol y dŵr a’r harddwch naturiol. Mae Gwobrau Arfordir Gwyrdd yn ‘drysorau cudd’ ar hyd arfordir Cymru, lleoedd rhagorol i ymweld â nhw a mwynhau amrywiaeth a threftadaeth arfordirol cyfoethog.

Mae cyfanswm o 12 o draethau wedi cyflawni’r Wobr Glan Môr am safonau eu cyfleusterau ac ansawdd y dŵr gyda tri safle newydd yn Llanilltud Fawr, Phenarth a Southerndown.

Mae’r ffigurau anhygoel hyn a’r llwyddiant parhaus ar draws arfordir Cymru unwaith eto yn bosibl diolch i ymdrech enfawr a chydwybodol ar y cyd, a phenderfynoldeb i barhau tra’n wynebu amgylchiadau eithriadol o heriol.

Mae gan Gymru rai o’r traethau a’r ansawdd dŵr gorau ar draws Ewrop gyfan, ac mae ond yn iawn ein bod yn cydnabod hyn trwy ddyfarnu Baneri Glas. Rydym yn adnabyddus ar draws y byd am ein harfordiroedd hardd ac er mwyn cadw ein traethau a’n harfordiroedd fel hyn mae angen i ni sicrhau ein bod yn gadael dim ond olion traed er mwyn i faneri glas allu parhau i hedfan am genedlaethau i ddod.

Julie James
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd

Canfu arolwg diweddar gan Cadwch Gymru’n Daclus fod y Faner Las yn cael ei chysylltu fwyaf ag ansawdd dŵr da a glendid traethau. Nododd yr arolwg hwn fod ymwybyddiaeth o wobr y Faner Las yng Nghymru yn dal yn uchel, gyda mwy na 90% o bobl wedi clywed am y wobr a thros 50% o bobl yn datgan y gallai colli Baner Las effeithio ar eu penderfyniad i ymweld â thraeth. Yn ogystal, cred dros 75% o fusnesau sydd wedi eu lleoli gerllaw traethau’r Faner Las fod y wobr yn denu ymwelwyr i’r ardal. Mae arolwg adroddiad y Faner Las a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos pwysigrwydd y wobr ac yn atgyfnerthu’r angen i ymdrechu am ragoriaeth amgylcheddol o amgylch ein hardaloedd arfordirol.

Gallwch weld adroddiad yr arolwg yma: https://bit.ly/3pG92I4

Rydym wedi derbyn canlyniadau Gwobrau Arfordir Cymru, ac rydym wrth ein bodd bod ein amheuon wedi eu cadarnhau – mae rhai o draethau gorau’r byd yma ar ein stepen drws. Mae’r gwobrau hyn yn deyrnged i waith caled ac ymroddiad y rheiny sy’n ymdrechu i gynnal a gwella gogoniant naturiol ein harfordir. Fodd bynnag, gyda’r fraint o fwynhau’r tirweddau trawiadol hyn daw’r cyfrifoldeb i’w diogelu a’u gwarchod. Dewch i ni gyd wneud addewid i wneud ein rhan trwy barchu’r amgylchedd a chadw ein traethau yn lân ac yn rhydd rhag sbwriel.

Owen Derbyshire
Keep Wales Tidy Chief Executive

Mae rhestr lawn o’r gwobrau ar gael isod, neu gallwch edrych ar ein map Gwobrau Arfordir.

Nod Cadwch Gymru’n Daclus yw ysbrydoli pawb i weithredu dros yr amgylchedd. Wrth ymweld â thraethau a marinas sydd wedi ennill gwobr, byddwch yn gyfrifol, ewch â’ch sbwriel gartref a gwnewch atgofion nid llanast.

 

Gwobrau Arfordir Cymru 2023 & Adroddiad yr Arolwg

Erthyglau cysylltiedig

Dathlu enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2024

17/09/2024

Darllen mwy
12 safle treftadaeth Cymru yn cael statws dwbl y Faner Werdd

10/09/2024

Darllen mwy
Cymru yn chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall ar draws y byd

16/07/2024

Darllen mwy
Mae Loteri Cymru Hardd wedi cyrraedd!

11/07/2024

Darllen mwy