Ers 1990, mae Gwobrau Cymru Daclus wedi rhoi’r cyfle i ni roi sylw i arwyr amgylcheddol anhysbys ar draws y wlad.
Ar ddydd Mercher 19 Ebrill, dychwelodd Gwobrau Cymru Daclus i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Roedd y digwyddiad yn fwy arbennig am ei fod yn nodi diwedd blwyddyn lle’r ydym wedi dathlu 50 mlynedd o weithio gyda gwirfoddolwyr a phartneriaid i wneud Cymru’n lle harddach i fyw.
Roedd ein henillwyr yn dod o gymunedau ar hyd a lled Cymru ac yn cyflawni ystod gyfan o waith amgylcheddol. Bob dydd, mae’r gwirfoddolwyr hyn, ysgolion, busnesau a sefydliadau, yn troi i fyny, yn torchi llewys, ac yn mynd ati i wella’r amgylchedd lleol. Maent yn plannu coed, yn codi sbwriel, yn adfer cynefinoedd, a chymaint mwy. Ond mae eu heffaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r newidiadau ffisegol y maent yn eu gwneud i’r dirwedd. Mae eu gwaith yn cryfhau cymunedau, mae’n dod â phobl ynghyd mewn achos cyffredin, ac mae’n ysbrydoli eraill i weithredu.
Valley Veterans Gwobr Arwyr Natur a noddwyd gan Trafnidiaeth Cymru
Cyfeillion Traethau’r Barri Gwobr Arfordir Hardd a noddwyd gan EdenTree
Codwyr Sbwriel ac Amgylchedd y Rhondda Gwobr Gymunedol Caru Cymru a noddwyd gan Helping Hand Environmental
Twf Swyddi Cymru a Mwy (Coleg Cambria) Gwobr Fusnes Caru Cymru a noddwyd gan Berry Global
Ysgol Babanod Cefn Glas Gwobr Arloesedd Eco-Sgolion a noddwyd gan Dŵr Cymru Welsh Water
RE:MAKE Casnewydd Gwobr Arloesedd yr Economi Gylchol a noddwyd gan Euroclad
Grŵp Gardd Gymunedol yr Hive Gwobr Tyfu Bwyd Cymunedol a noddwyd gan Grŵp Colegau NPTC
Rhandiroedd Pafiliwn Pengam Gwobr Trawsnewid Cymunedol a noddwyd gan DS Smith
Rob Curtis Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn a noddwyd gan Tai Wales & West
Mae enillydd Gwobr Cyflawniad Eithriadol 2023, ‘Valley Veterans’ Cymoedd y Rhondda, yn rhoi cymorth i gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog, personél sydd yn gwasanaethu a milwyr wrth gefn sydd yn agored i niwed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig De Cymru. Maent wedi trawsnewid llinell rheilffordd hen bwll glo yn fan gwyrdd hygyrch anhygoel gyda dôl, coed afalau a gwelyau uchel wedi eu dylunio i wella draeniad a darparu cynefinoedd hanfodol i beillwyr, sydd ar agor i’r cyhoedd ei fwynhau.
Casglodd Paul Bromwell o Valley Veterans y wobr ddydd Mercher. Gan siarad ar ôl y seremoni, dywedodd Paul:
Mae’r wobr hon am gyflawniad eithriadol nid yn unig i fi ond i bawb sydd wedi cymryd rhan dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae’n anhygoel bod yma heddiw i fynd â’r wobr hon gartref. Rwy’n ei werthfawrogi o waelod fy nghalon. Paul BromwellValley Veterans
Paul BromwellValley Veterans
Owen Derbyshire, ein Prif Weithredwr newydd, gafodd y fraint o ddewis yr enillydd cyffredinol a siaradodd yn y seremoni.
Mae cryn dipyn wedi newid dros yr hanner canrif diwethaf; ond yr hyn sydd wedi aros yn gyson yw angerdd a phenderfyniad unigolion, grwpiau, ysgolion, busnesau, a phartneriaid eraill y mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cael y fraint o weithio gyda nhw. Maent yn dangos i ni i gyd beth sy’n bosibl pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd tuag at nod cyffredin, ac rwyf mor falch ein bod yn rhan o’r mudiad trawiadol hwn o bobl sydd yn poeni’n fawr am ein planed ac yn gweithredu i’w diogelu.
Oherwydd, dewch i ni fod yn onest: mae’r heriau yr ydym yn eu hwynebu’n aruthrol. Mae newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth, llygredd plastig, ac argyfyngau amgylcheddol eraill yn bygwth ein ffordd o fyw a’r blaned fel y mae nawr, ond rwy’n edrych ar yr ymgeiswyr terfynol ac rwy’n llawn gobaith – gobaith y gallwn greu Cymru fwy cynaliadwy, cydnerth, a hardd. Gobaith y gallwn ysbrydoli eraill i wneud gwahaniaeth. Gobaith y gallwn, gyda’n gilydd, greu dyfodol gwell ar gyfer cenedlaethau i ddod. Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Rydym wedi bod yn ffodus unwaith eto eleni i gael nawdd gan nifer o sefydliadau partner yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru; EdenTree; Helping Hand Environmental; Berry Global; Euroclad; Grŵp Colegau NPTC; DS Smith; Tai Wales & West; a Dŵr Cymru Welsh Water. Hoffem ddiolch iddynt am eu cefnogaeth.
14/11/2024
17/09/2024
10/09/2024
16/07/2024