A A A

Hyb codi sbwriel newydd yn cefnogi ymgyrch glanhau hydrefol AS

Cymerodd AS Preseli Penfro, Stephen Crabb, ran mewn ymgyrch hydrefol glanhau traethau gan ddefnyddio cyfarpar a ddarparwyd gan hyb codi sbwriel newydd Cadwch Gymru’n Daclus yn Abergwaun ar ddydd Llun 11 Hydref.

Aeth yr AS a’i dîm, ynghyd â Rheolwr Rhanbarthol Gorllewin Cymru Cadwch Gymru’n Daclus, Simon Preddy, i lawr i draeth Niwgwl, i gasglu sbwriel a adawyd ar ôl gan ymwelwyr a’r môr.

Mae ein rhwydwaith cynyddol o hybiau yn cynnig yr holl offer sydd ei angen arnoch i gynnal ymgyrch glanhau diogel.  Mae hyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, bagiau sbwriel a chylchynnau (sydd yn hanfodol ar gyfer cadw eich bagiau yn agored os yw hi’n wyntog!).  Maent wedi cael eu sefydlu fel rhan o’n menter Caru Cymru.

Mae chwe hyb codi sbwriel yn Sir Benfro hyd yn hyn gyda chyfarpar ar gael i aelodau’r gymuned ei ddefnyddio.

Rwyf wrth fy modd yn cefnogi’r fenter newydd hon yn Sir Benfro ac i roi cynnig ar yr hyb codi sbwriel newydd ar gyfer fy ymgyrch hydrefol glanhau traethau. Mae’r traethau wedi bod yn eithafol o brysur yn ystod misoedd yr haf ac mae’n wych cael y cyfle i wneud fy rhan ar gyfer ein hamgylchedd lleol trwy helpu i gadw ein traethau yn lân. Mewn ychydig oriau yn unig, fe wnes i a’r tîm gasglu llawer o blastig ac amrywiaeth o hen offer pysgota, cetrys gynnau haels a hyd yn oed esgidiau o’r creigiau a’r tywod yn Niwgwl. Mae’n dangos nad oes angen llawer o amser arnoch i wneud gwahaniaeth – a nod yr hybiau hyn yw gwneud codi sbwriel yn hygyrch i unrhyw un, unrhyw bryd.

Stephen Crabb AS

Y weledigaeth yw i Caru Cymru gael ei rhyngblethu i fywyd yng Nghymru, fel ei fod yn naturiol i bawb wneud y peth iawn, o fynd â sbwriel gartref a glanhau ar ôl eich ci, i ailgylchu ‘wrth fynd’, ailddefnyddio ac atgyweirio. Wrth i bawb gydweithio i greu amgylchedd glân a diogel, gallwn greu cymunedau cryfach, iachach a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n planed.

Simon Preddy
Rheolwr Rhanbarthol Gorllewin Cymru

Dod o hyd i’ch Hyb Codi Sbwriel lleol

Mae oriau agor a manylion cyswllt hybiau ar gael trwy glicio ar y map.  Noder, yn ystod y cyfnod anarferol hwn, gall oriau agor hybiau newid.

Dod o hyd i’ch hyb codi sbwriel lleol

Erthyglau cysylltiedig

Cadwch Gymru’n Daclus yn dileu sbwriel cas!

24/01/2025

Darllen mwy
Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy
Angen Cynllun Dychwelyd Ernes nawr yn fwy nag erioed

12/03/2024

Darllen mwy