Mae Pafiliwn Grange yn ymuno â’r nifer gynyddol o hybiau codi sbwriel sydd yn agor ar draws Cymru.
Mae hyb codi sbwriel newydd wedi agor ym Mhafiliwn Grange yn Grangetown, Caerdydd sydd yn galluogi’r cyhoedd, grwpiau cymunedol a busnesau i gael benthyg cyfarpar codi sbwriel i lanhau eu hardal leol.
Mae Pafiliwn Grange yn cynnig yr holl gyfarpar sydd ei angen ar bobl leol i gynnal digwyddiad glanhau diogel a chadw eu cymuned yn edrych yn hardd. Mae hyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, sachau sbwriel a chylchynnau.
I ddathlu lansio’r hyb codi sbwriel, cynhelir digwyddiad glanhau ar ddydd Mercher 2 Chwefror rhwng 15.45yp a 17.00yp. Gwahoddir pobl leol i gymryd rhan a helpu i gadw Grangetown yn daclus.
Mae’r hybiau codi sbwriel wedi cael eu sefydlu gan Cadwch Gymru’n Daclus fel rhan o fenter Caru Cymru. Mae Caru Cymru yn fudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid awdurdodau lleol i ddileu sbwriel a gwastraff.
Rydym yn llawn cyffro i fod yn lansio hyb codi sbwriel ym Mhafiliwn Grange ar ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr. Rydym yn annog unigolion, busnesau a grwpiau lleol i wneud defnydd da o’r cyfleusterau newydd hyn i chwarae rhan yn gwella eu hamgylchedd lleol. Dywedodd Ali Abdi, Rheolwr Hyb Codi Sbwriel Pafiliwn Grange
Dywedodd Ali Abdi, Rheolwr Hyb Codi Sbwriel Pafiliwn Grange
Mae Caru Cymru wedi cael cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru
I ganfod mwy am hybiau codi sbwriel ar draws Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.
04/07/2024
06/03/2023
20/01/2023
16/01/2023