A A A

Lansio mudiad newydd i ddileu sbwriel a gwastraff ar draws Cymru

Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda phob awdurdod lleol ar draws Cymru ar ein menter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff.

Nod Caru Cymru yw ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.  Rydym yn galw ar bawb i gymryd cyfrifoldeb am y sbwriel a’r gwastraff y maent yn ei gynhyrchu mewn ymgyrch i greu Cymru lanach, fwy diogel.

Rydym yn adnabyddus am y gwaith yr ydym yn ei wneud o ddydd i ddydd gyda’n byddin anhygoel o wirfoddolwyr yn codi sbwriel; ond bydd ein mudiad newydd nid yn unig yn canolbwyntio ar lanhau, bydd yn mynd i’r afael ag atal sbwriel rhag digwydd yn y lle cyntaf.  Ein gweledigaeth ar gyfer Caru Cymru yw y bydd yn dod yn naturiol i bobl wneud y peth iawn, o fynd â sbwriel gartref i lanhau ar ôl eu ci, i ailgylchu ‘wrth fynd’, ailddefnyddio ac atgyweirio.

Nid clwb dethol yw Caru Cymru – gall bawb ymuno

Mae gan bob person yng Nghymru rhan i’w chwarae yn dileu sbwriel a gwastraff sydd yn gallu achosi cymaint o niwed i’n cymunedau ac i’n hamgylchedd naturiol. Rwy’n falch o fod yn rhan o fenter sydd yn dod â phobl ynghyd, ac yn darparu’r offer, yr arloesedd a’r cymorth sydd ei angen i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Nid yw Caru Cymru yn glwb dethol – gall pawb ymuno.

Lesley Jones
Prif weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Mae sbwriel yn cael effaith sylweddol a phellgyrhaeddol ar gymunedau.  Pan na fydd ardaloedd yn cael gofal mae’n gwneud i bobl deimlo’n anniogel, mae’n effeithio ar gydlyniant cymdeithasol, y teimlad o falchder mewn cymunedau, mae’n llethu twf economaidd a thwristiaeth, ac yn dinistrio mwynhad pobl o fyd natur.  Mae sbwriel hefyd yn gallu niweidio bywyd gwyllt, mannau gwyrdd, coedwrych, afonydd a chefnforoedd.

Mae pobl yng Nghymru eisoes wedi profi eu bod yn gofalu am ein gwlad trwy fabwysiadu arferion ailgylchu pwysig sydd bellach yn golygu mai ni yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu. Ond mae mwy i’w wneud o hyd, mae’n rhaid i ni fynd y tu hwnt i ailgylchu, a dyma union nod Caru Cymru. Mae angen i’n hymagwedd tuag at wastraff ymestyn y tu hwnt i’n cartref yn unig ond i’r gofod sydd yn ffurfio’r pentrefi, y trefi a’r dinasoedd yr ydym yn byw ynddynt. Trwy wneud hynny, gallwn fynd i’r afael â sbwriel a gwastraff hirdymor yn uniongyrchol a gall pawb gael budd o Gymru lanach.

Lesley Griffiths
Y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Dangoswch eich cariad at Gymru

Dros y misoedd i ddod, byddwn yn rhoi ystod o atebion newydd ac arloesol ar brawf i fynd i’r afael â sbwriel ar ochr y ffordd, sbwriel bwyd brys a sbwriel yn ymwneud â’r môr, yn gwella ansawdd aer ac yn dileu plastig untro.

Mae pobl ar hyd a lled Cymru’n cael eu hannog i ymuno â’r mudiad newydd.  Ewch i hyb Caru Cymru am fwy o wybodaeth.

Cyllidwyd Caru Cymru drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

Erthyglau cysylltiedig

Cyflwyno Bin Môr Abertawe

19/02/2025

Darllen mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn dileu sbwriel cas!

24/01/2025

Darllen mwy
Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy