Yn ystod tymor yr hydref eleni, rydym yn galw ar wirfoddolwyr i ddod o hyd i’w codwyr sbwriel, gwneud addewid a chymryd rhan yn ein hymgyrch Glanhau Moroedd Cymru, gan dargedu afonydd, dyfrffyrdd a thraethau ar draws Cymru.
Yn dilyn llwyddiant Gwanwyn Glân Cymru, mae’r neges yn syml – ymunwch a gwnewch addewid i godi gymaint o sbwriel ag y gallwch yn ystod yr ymgyrch. Gallwch ddewis codi un bag yn unig, neu gallech osod nod i chi eich hun o gasglu gymaint ag y gallwch.
Eleni, rydym wedi ymuno â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol, gan dargedu traethau o amgylch arfordir Cymru a bydd yn cyd-fynd ag Ymgyrch Glanhau Traethau Prydain Fawr, rhaglen glanhau traethau ac arolwg sbwriel mwyaf y DU. Y nod yw casglu data hanfodol fydd yn cael ei ddefnyddio i nodi’r problemau penodol y mae ein moroedd a’n harfordiroedd yn eu hwynebu.
Mae sbwriel morol yn fygythiad cynyddol i’n hamgylchedd dyfrol a morol, gydag 80% yn dod o ffynonellau ar y tir. Mae’r rhan fwyaf o sbwriel a geir yn ein dyfrffyrdd yn mynd i mewn i’n cefnforoedd yn y pen draw, mater nad yw’n berthnasol i ardaloedd arfordirol yn unig. Mae angen atal y broblem yn ei ffynhonnell gan gadw ein traethau a’n dyfrffyrdd yn lân er mwyn i fywyd gwyllt allu ffynnu, a’n bod yn gallu gwneud y gorau o’n hamgylchedd hardd.
Mae Glanhau Moroedd Cymru yn dychwelyd am y tro cyntaf ers mis Hydref 2019 cyn y pandemig ac fe’i cynhelir o ddydd Gwener 16 Medi i ddydd Sul 9 Hydref 2022, yn targedu’r holl ddyfrffyrdd ar hyd a lled Cymru, yn cynnwys afonydd, nentydd, camlesi ac aberoedd. O’ch hoff draeth i’r nant fach yn eich pentref, gallwch wneud gwahaniaeth a helpu i fynd i’r afael â sbwriel morol.
Yn ogystal â gwella eich amgylchedd lleol, mae codi sbwriel yn ffordd wych o fwynhau’r awyr agored yn ystod un o adegau mwyaf hyfryd y flwyddyn.
Eisiau cymryd rhan yn ein hymgyrch Glanhau Moroedd Cymru ond ddim yn byw ger yr arfordir?
Peidiwch â phoeni gan fod ein hymgyrch yn cynnwys y dyfrffyrdd i gyd yn cynnwys afonydd, nentydd, camlesi, llynnoedd a chronfeydd dŵr felly bydd digon yn digwydd ar hyd a lled Cymru.
I ddod o hyd i ddigwyddiad: https://keepwalestidy.cymru/cy/events/
I gofrestru digwyddiad eich hun: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/glanhau-moroedd-cymru/
18/10/2024
29/04/2024
12/03/2024
30/10/2023