Mae Loteri Cymru Hardd ar ran Cadwch Gymru’n Daclus wedi lansio heddiw, yn rhoi cyfle i gymuned anhygoel Cadwch Gymru’n Daclus chwarae’r loteri wythnosol.
Am gyn lleied â £1 yr wythnos, gall chwaraewyr ennill hyd at £25,000 – a’r bonws yw y bydd yr holl elw yn mynd tuag at gefnogi’r gwaith pwysig yr ydym yn ei wneud.
Yn 2021, lansiodd Cadwch Gymru’n Daclus strategaeth ar gyfer y degawd. Fe wnaethom ei alw’n strategaeth Cymru Hardd, a’r loteri yw’r cam nesaf yn dod â chymunedau ledled Cymru ynghyd i gefnogi ein breuddwydion i greu Cymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.
Bydd yr elw o’r loteri yn helpu i sicrhau parhad ein gwaith amgylcheddol lleol, gyda phrosiectau sy’n datblygu ac yn gwella mannau gwyrdd, yn cefnogi hybiau sbwriel ac yn gosod safonau ar gyfer rhagoriaeth amgylcheddol, sydd i gyd o fudd nid yn unig i natur ond ein hiechyd, ein lles, cymunedau a’r economi.
Cost tocynnau loteri yw £1, ac mae pob tocyn yn cynnwys cyfuniad o chwe rhif unigol, rhwng sero a naw. Dyfernir y gwobrau i chwaraewyr sydd â thri neu fwy o rifau sy’n cyfateb i’r cyfuniad buddugol yn y lle cywir. Os byddwch yn paru bob un o’r chwech, byddwch yn ennill y jacpot o £25,000!
Cynhelir y loteri bob nos Lun, gyda’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan Loteri Cymru Hardd. Os chi yw un o’r enillwyr lwcus, byddwn yn rhoi gwybod i chi ar e-bost ac yn talu eich enillion yn syth i’ch cyfrif banc cofrestredig.
Nawr yw’r amser, ewch draw i Loteri Cymru Hardd a phrynwch eich tocynnau nawr!
Mae’n rhaid i chwaraewyr fod yn 18 oed neu’n hŷn i chwarae’r loteri wythnosol, cofiwch gamblo’n gyfrifol.
17/09/2024
10/09/2024
16/07/2024
17/05/2024