A A A

Mae’n amser i ddewis hoff barciau a mannau gwyrdd y Genedl

Helpwch ni i ddod o hyd i 10 hoff fan gwyrdd y DU trwy bleidleisio dros eich un chi yng Ngwobr y Faner Werdd Gwobrau Dewis y Bobl!

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn fwy nag erioed, rydym i gyd wedi dod i ddeall pa mor bwysig yw cael parc neu fan gwyrdd gwych ar ein stepen drws.

Diolch i waith diflino staff a gwirfoddolwyr parciau ar draws y DU, eleni mae 2,208 o barciau a mannau gwyrdd wedi cael Gwobr y Faner Werdd – marc ansawdd rhyngwladol ar gyfer parciau a mannau gwyrdd.

Nawr, i ddathlu ein parciau a’n mannau gwyrdd rhagorol, rydym yn gofyn i’r cyhoedd bleidleisio dros eu hoff safle sydd wedi ennill gwobr y Faner Werdd.

Sut i bleidleisio?

I bleidleisio dros eich hoff un, dewch o hyd iddo ar y map enillwyr a chlicio ar y botwm pleidleisio https://www.greenflagaward.org/award-winners/

Ar ôl pleidleisio, beth am annog eraill i gymryd rhan hefyd?

Eleni gellir pleidleisio hyd at 31 Hydref 2022 a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi’n fyw mewn seremoni rithiol ar 15 Tachwedd 2022.

Diolch i frwdfrydedd ac ymrwymiad staff a gwirfoddolwyr ar draws y wlad, mae 265 o barciau a mannau gwyrdd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yng Nghymru eleni. Dyma eich cyfle i ddangos faint mae eich hoff barc neu fan gwyrdd yn ei olygu i chi trwy bleidleisio drostynt yng Ngwobrau Dewis y Bobl 2022.

Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus

Erthyglau cysylltiedig

Parciau Cymru’n cael eu cydnabod fel y ‘gorau o’r goreuon’

14/11/2024

Darllen mwy
Dathlu enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2024

17/09/2024

Darllen mwy
12 safle treftadaeth Cymru yn cael statws dwbl y Faner Werdd

10/09/2024

Darllen mwy
Cymru yn chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall ar draws y byd

16/07/2024

Darllen mwy