Rydym yn ymuno â BBC Radio Wales am gyfres o ddigwyddiadau codi sbwriel i helpu i wneud Cymru’n lle gwyrddach, mwy diogel a glanach fel rhan o ymgyrch ‘Gwneud Gwahaniaeth’,
Gyda’n gilydd, rydym yn annog gwirfoddolwyr i ymuno gyda rhai o enwau mwyaf Radio Wales mewn ymgyrchoedd glanhau yng Nghaerdydd, Abertawe a Bae Colwyn.
Rydym eisiau pwysleisio pa mor hawdd ydyw i ofalu am eich ardal leol trwy ddathlu’r rhwydwaith cynyddol o hybiau codi sbwriel ar hyd a lled Cymru.
Mae dros 100 o hybiau eisoes wedi cael eu sefydlu fel rhan o Caru Cymru, ein menter newydd i ddileu sbwriel a gwastraff. Maent yn galluogi darpar arwyr sbwriel i gael benthyg cyfarpar am ddim i gynnal ymgyrch glanhau diogel.
Mae’n gyfle gwych i BBC Radio Wales wneud gwahaniaeth trwy helpu yn y digwyddiadau hyn. Rwy’n gwybod bod y cyflwynwyr yn awyddus iawn ac yn edrych ymlaen at gyfarfod â rhai o’r gwirfoddolwyr yn yr ymgyrchoedd glanhau hyn - rhai ohonynt yn gweithio’n galed drwy’r flwyddyn i gadw Cymru'n rhydd rhag sbwriel. Colin PatersonPennaeth BBC Radio Wales a Chwaraeon
Colin PatersonPennaeth BBC Radio Wales a Chwaraeon
Rwy’n edrych ymlaen at helpu yn y digwyddiadau glanhau hyn ac rwy’n gwybod bod fy nghyd-gyflwynwyr yn teimlo yr un peth. Mae’n wych gallu chwarae ein rhan i helpu i gadw Cymru’n daclus. Gobeithio eich gweld chi i gyd yno! Wynne EvansCyflwynydd, BBC Radio Wales
Wynne EvansCyflwynydd, BBC Radio Wales
Trwy gydol mis Medi a Hydref, bydd gan wrandäwyr gyfle hefyd i glywed straeon ysbrydoledig gan rai o wirfoddolwyr presennol Cadwch Gymru’n Daclus, sydd yn gweithio’n ddiflino i gadw eu hamgylchedd lleol yn lân.
Rydym wrth ein boddau i fod yn ymuno â BBC Radio Wales ar y digwyddiadau glanhau cyffrous hyn. Mae’n gyfle gwych i dynnu sylw at rai o’n gwirfoddolwyr rhagorol a dangos pa mor hawdd yw gofalu am y man lle’r ydych yn byw. Gobeithio y bydd pobl o bob oed yn cael eu hysbrydoli i ymuno â ni dros yr wythnosau i ddod. Dewch i ni ddangos cariad tuag at ein gwlad hardd yr hydref hwn. Lesley JonesPrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Lesley JonesPrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Mae mwy o wybodaeth ynghylch Gwneud Gwahaniaeth ar gael ar wefan BBC Radio Wales – www.bbc.co.uk/radiowales
29/04/2024
12/03/2024
30/10/2023
20/07/2023