Rydym wedi ymuno â Keep Britain Tidy yn Lloegr a Keep Scotland Beautiful mewn galwad frys i weithredu i fynd i’r afael â sbwriel ar ôl y cyfnod clo. Gyda’n gilydd rydym yn annog pobl i wneud y peth iawn a rhoi eu sbwriel yn y bin neu fynd ag ef gartref.
Gobeithio bod y llythyr agored hwn, wedi ei lofnodi gan y tri prif weithredwr, yn anfon neges glir i bawb wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio.
Yng Nghymru, rydym hefyd yn gweithio gyda phob awdurdod lleol ar ymgyrch ‘creu straeon nid sbwriel’.
I atal biniau rhag llenwi a gorlifo, mae pawb yn cael eu hannog i fynd â’u sbwriel adref a’i waredu yno.
Mae’r ymgyrch yn cael ei gynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol i ddileu sbwriel a gwastraff. Ei nod yw ysbrydoli pobl Cymru i weithredu a gofalu am ein hamgylchedd, datblygu cymunedau cryfach, iachach a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n planed.
Dyma neges gan un o’n cefnogwyr arbennig…#CaruCymru
Gallwch ganfod mwy trwy fynd i Hyb Caru Cymru
29/04/2024
12/03/2024
30/10/2023
20/07/2023