Mae Clwb Rygbi Trecelyn yn annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes fel rhan o ymgyrch cenedlaethol baw cŵn gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Daeth tad bachgen wyth oed, Jake, o hyd i faw ci ar ochr wyneb ei fab tra’n cynhesu cyn gêm o rygbi yng Nghlwb Rygbi Trecelyn yng Nghaerffili, lle mae anifeiliaid wedi eu gwahardd.
Fe wnaeth y baw ci fethu llygad Jake o drwch blewyn, yn yr hyn y mae Clwb Rygbi Trecelyn wedi ei ddisgrifio fel digwyddiad a allai fod wedi bod yn ddifrifol iawn.
Gadawodd dyn ifanc ei gartref ar fore dydd Sul yn llawn cyffro am chwarae gêm o rygbi. Tra’n cynhesu cafodd ei daclo a glanio ar ei wyneb mewn baw ci. Oherwydd ble roedd y baw ci ar ei wyneb, a’r ffaith eich bod yn gallu colli eich golwg yn sgîl hynny, roedd yn achos pryder mawr. Yn ffodus, nid aeth i mewn i’w lygaid ond roedd yn lwcus a gallai fod wedi newid ei fywyd ef a’i deulu pe byddai hynny wedi digwydd. Nid yw baw cŵn ar ein cae rygbi yn dderbyniol ac mae angen iddo stopio. Rydym wedi ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus i annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes cyn i blentyn gael niwed difrifol. Dywedodd Dafydd Martin-Lloyd, Cyfarwyddwr Clwb Rygbi Trecelyn
Dywedodd Dafydd Martin-Lloyd, Cyfarwyddwr Clwb Rygbi Trecelyn
Mae baw cŵn yn dal yn broblem barhaus mewn cymunedau ar draws y wlad. Nod ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus yw codi ymwybyddiaeth o’r peryglon iechyd sydd yn gysylltiedig â baw cŵn.
Yn ogystal â chario bacteria niweidiol sydd yn gallu arwain at haint, asthma a hyd yn oed dallineb, gall bacteria fyw yn y pridd ymhell ar ôl i’r baw ci bydru.
Rydym wedi ymuno â Chlwb Rygbi Trecelyn i annog y nifer fach hynny o berchnogion cŵn i wneud y peth iawn a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes. Trwy beidio â glanhau ar ôl eich ci, gallech fod yn rhoi plant mewn perygl. Rydym wedi ein syfrdanu gan y digwyddiad yng Nghlwb Rygbi Trecelyn. Gallai fod wedi bod yn sefyllfa wahanol iawn pe byddai’r baw ci wedi mynd i mewn i lygad y bachgen ifanc. Mae rhai awdurdodau lleol wedi gwahardd cŵn o gaeau chwarae, a mannau eraill fel parciau chwarae plant. Parchwch y rheolau hyn a chadwch eich cŵn i ffwrdd o ardaloedd dim cŵn. Nid baw amhleserus yn unig yw baw cŵn. Gall fod yn beryglus. Bagiwch a biniwch a gadewch olion pawennau yn unig pan fyddwch allan. Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Er bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, mae nifer o berchnogion anghyfrifol o hyd sydd yn caniatáu i’w cŵn faeddu mewn mannau cyhoeddus heb lanhau ar eu hôl. Yn ogystal â bod yn hynod amhleserus i’r cyhoedd a defnyddwyr caeau chwaraeon, mae peryglon iechyd difrifol yn gysylltiedig â baw cŵn halogedig. Bydd penderfyniad y cyngor i wahardd cŵn o gaeau chwaraeon wedi eu nodi yn helpu i sicrhau amgylchedd glân a diogel i oedolion a phlant, fel Jake a’i gyd-chwaraewyr, wneud ymarfer corff. Bydd hefyd yn annog perchnogaeth cŵn cyfrifol. Dywedodd llefarydd o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Dywedodd llefarydd o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mae’r ymgyrch cenedlaethol yn cael ei gynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol wedi ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.
Yn seiliedig ar ymchwil gan arbenigwyr newid ymddygiad, mae arwyddion, posteri, stensiliau pawennau a sticeri biniau pinc llachar yn ymddangos ar draws y wlad i ‘annog’ pobl i wneud y peth iawn.
I ganfod mwy ac i lawrlwytho deunyddiau am ddim, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus: Gwnewch y peth iawn a ‘Gadael olion pawennau yn unig’ – Keep Wales Tidy
Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
19/02/2025
24/01/2025
18/10/2024
29/04/2024