A A A

Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

Ar 25 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod oedi pellach ar gyflwyno cynlluniau dychwelyd ernes (CDE) ledled y DU o 2025 i 2027.

Yn 2006, cyhoeddodd Cadwch Gymru’n Daclus ddogfen bolisi lle galwyd am gynllun dychwelyd ernes (CDE) gorfodol ar gyfer plastig, gwydr, a chynwysyddion diodydd metel i ddiogelu ein tirwedd rhag sbwriel.

Mae 18 mlynedd wedi mynd heibio bellach, ac er ein bod yn cydnabod yr angen am ddull pragmatig o gyflwyno CDE, rydym yn hynod siomedig gyda’r penderfyniad i oedi cyn ei weithredu unwaith eto.

Rydym, fodd bynnag, yn croesawu uchelgais clir Cymru i sefydlu system hollgynhwysol o safon fyd-eang yma – yn cynnwys gwydr – gan ychwanegu at ein henw da hirsefydlog fel arweinwyr ailgylchu rhyngwladol. Rydym yn annog llywodraethau eraill yn y DU i gyrraedd lefel o uchelgais sy’n cyfateb â hyn, yn hytrach na dewis y lefel isaf gyffredin.

Dewch i ni gyflawni hyn

Mae ein data diweddaraf yn dangos bod presenoldeb poteli gwydr ar strydoedd Cymru wedi mwy na dyblu yn y pedair blynedd diwethaf, ac erbyn hyn mae sbwriel diodydd i’w ganfod ar 43.6% o strydoedd Cymru. Mae hynny’n bron 60,000 o gynwysyddion sydd yn gorwedd ar balmentydd ac ochr ffyrdd yn ein cymunedau, ac nid yw hynny’n cynnwys parciau a thraethau lle gallant roi cyfrif am hyd at 94% o’r holl eitemau sy’n cael eu taflu fel sbwriel.

Mae dros 40 o wledydd eisoes wedi gweithredu CDE yn llwyddiannus, yn cynnwys Latfia lle maent wedi gweld gostyngiad o 61% yn y cynwysyddion plastig sy’n cael eu taflu fel sbwriel ers cyflwyno’r cynllun yn 2022. Mae cynlluniau dychwelyd ernes yn gweithio, ac ni allwn fforddio oedi ymhellach.

Mae CDE yn dda i natur, yn dda i gymunedau ac yn dda i’n heconomi yn y dyfodol – dewch i ni gyflawni hyn.

Erthyglau cysylltiedig

Cyflwyno Bin Môr Abertawe

19/02/2025

Darllen mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn dileu sbwriel cas!

24/01/2025

Darllen mwy
Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Angen Cynllun Dychwelyd Ernes nawr yn fwy nag erioed

12/03/2024

Darllen mwy