Ymgyrch baw cŵn Cadwch Gymru’n Daclus yn rhoi olion pawennau pinc llachar gerllaw biniau ar draws y wlad.
Mae ymgyrch ‘gadewch olion pawennau yn unig’ yn seiliedig ar ymchwil gan arbenigwyr newid ymddygiad i ‘ysgogi’ pobl i wneud y peth iawn a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.
Olion pawennau pinc llachar yn arwain at finiau yw’r cam nesaf wrth ysgogi pobl i waredu eu baw cŵn yn gyfrifol. Mae’n un o ymyriadau niferus Cadwch Gymru’n Daclus i frwydro yn erbyn baw cŵn ar draws Cymru, ynghyd ag arwyddion pinc llachar, posteri a sticeri biniau.
Er yr amcangyfrifir bod naw allan o ddeg o berchnogion cŵn yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, mae baw cŵn yn dal yn broblem barhaus mewn cymunedau ar draws y wlad. Gall baw cŵn beryglu iechyd pobl a nifer o anifeiliaid eraill hefyd. Er mwyn hyrwyddo perchnogaeth cŵn cadarnhaol a chyfrifol i’r nifer fach o berchnogion cŵn nad ydynt yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, mae olion pawennau pinc llachar yn cael eu paentio ar draws Cymru i arwain pobl yn hawdd i’r bin agosaf. Ynghyd â’r olion pawennau trawiadol hyn, ceir sticeri biniau ac arwyddion i’w wneud mor hawdd â phosibl i bobl ddod o hyd i fin baw cŵn a gwneud y peth iawn. Jemma BereDywedodd rheolwr Polisi ac Ymchwil Cadwch Gymru’n Daclus
Jemma BereDywedodd rheolwr Polisi ac Ymchwil Cadwch Gymru’n Daclus
Fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau cymryd rhan yn yr ymgyrch gwerth chweil hwn gyda swyddog prosiect lleol Cadwch Gymru’n Daclus. Roedd yn rhagorol iddynt ddysgu am effaith baw cŵn a sut i waredu baw ci yn iawn. Bydd yr olion pawennau pinc llachar yn ei wneud yn haws i gerddwyr cŵn ddod o hyd i’r bin agosaf a gwaredu baw eu ci yn gyfrifol. Rydym wrth ein bodd yn helpu i gadw ein cymuned leol yn lân ac yn rhydd rhag sbwriel – os ydych yn cerdded eich ci o amgylch Pwll Brickfields, bagiwch a biniwch eich baw ci. Mrs F HoareYsgol Tir Morfa
Mrs F HoareYsgol Tir Morfa
18/10/2024
29/04/2024
12/03/2024
30/10/2023