A A A

Owen Derbyshire yn ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus

Yr wythnos hon, mae Owen Derbyshire yn ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus fel ein Prif Weithredwr newydd. Mae Owen yn ymuno â ni o S4C, lle’r oedd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Digidol a Marchnata. Daw â phrofiad ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yng Nghymru.

Mae Owen yn ymuno ar adeg allweddol yn ein hymgais i greu Cymru hardd, un lle mae’r amgylchedd lleol yn chwarae rhan ganolog yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llygredd amgylcheddol byd-eang.

Bydd Owen yn sbarduno ein strategaeth a lansiwyd yn ddiweddar ar gyfer y degawd – Cymru Hardd – wrth i ni barhau i hyrwyddo’r economi gylchol gyda’n rhaglen atal sbwriel a gwastraff, Caru Cymru; gosod y safonau ar gyfer rhagoriaeth amgylcheddol trwy wobrau rhyngwladol a gydnabyddir, fel y Faner Las, Goriad Gwyrdd a’r Faner Werdd ar gyfer Parciau; a chreu ac adfer mannau gwyrdd mewn cymunedau ar draws Cymru.  Bydd hefyd yn flaenllaw yn arwain ymgysylltu â phobl ifanc trwy Eco-Sgolion a’r bwrdd ieuenctid fydd yn gael ei benodi’n fuan.

Mae’n fraint wirioneddol i ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus ar adeg dyngedfennol i’r amgylchedd, yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae brwdfrydedd y tîm a llwyddiant parhaus ystod eang o brosiectau Cadwch Gymru’n Daclus yn dyst i arweinyddiaeth fy rhagflaenydd, a hoffwn ddiolch i Lesley am y gefnogaeth y mae wedi ei rhoi i mi wrth i mi ddechrau fy rôl newydd. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn cyflawni pethau eithriadol dros y blynyddoedd i ddod, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i wireddu’r potensial hwnnw.

Owen Derbyshire
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Mae Andrew Stumpf, Cadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr Cadwch Gymru’n Daclus, yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair gydag Owen wrth y llyw:

Mae ymestyn ein rhaglenni allweddol ac addewid o’r newydd i gyflawni wedi creu potensial i wneud newid cadarnhaol a pharhaol i’r ffordd y caiff ein hamgylchedd ei drin. Daw Owen â’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad cywir i ddatblygu’r gwaith a wnaed hyd yn hyn, cynyddu ein cyrhaeddiad ymhellach, a’n helpu ni i gyd i garu Cymru.

Andrew Stumpf
Cadeirydd, Cadwch Gymru’n Daclus

Erthyglau cysylltiedig

Gwneud cyfraniad i Cadwch Gymru’n Daclus am ddim gydag easyfundraising!

02/12/2024

Darllen mwy
Datganiad CDE Cadwch Gymru’n Daclus Tachwedd 2024

19/11/2024

Darllen mwy
Ieuenctid yn arwain y galw am weithredu hinsawdd yn COP Ieuenctid Cymru 2024

15/11/2024

Darllen mwy
Parciau Cymru’n cael eu cydnabod fel y ‘gorau o’r goreuon’

14/11/2024

Darllen mwy