A A A

Owens Group yn cefnogi ein hymgyrch sbwriel ar ochr y ffordd

Mae’r prif Gwmni Trafnidiaeth a Warysau yng Nghymru yn galw ar fodurwyr i fynd â’u sbwriel gartref fel rhan o’n hymgyrch genedlaethol ar sbwriel ar ochr y ffordd.

Ers 1972, mae Owens Group wedi bod yn arwain y ffordd yn y sector trafnidiaeth ac ar hyn o bryd mae’n cyflogi dros 1,000 o bobl ledled y DU.

Fel rhan o’r Grŵp, maent hefyd yn cefnogi ailgylchu drwy eu chwaer-gwmni, Dyfed Recycling Skip Hire & Recycling Services, sydd â’r nod o helpu i greu Cymru lanach.

Rydyn ni’n falch o weithio mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus a chefnogi eu hymgyrch sbwriel ar ochr y ffordd i annog gyrwyr i gadw eu cydwybod a’n ffyrdd yn glir. Yn Grŵp Owens, mae cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif bob amser ar frig ein hagenda. Mae gennym bolisi amgylcheddol a chynlluniau rheoli gwastraff ym mhob un o’n safleoedd i sicrhau bod ein holl yrwyr yn cael gwared ar eu sbwriel yn gyfrifol. Rydyn ni’n defnyddio’r tryciau mwyaf effeithlon o ran tanwydd, ac mae pob llwybr yn cael ei gynllunio’n ofalus i sicrhau bod yr opsiwn mwyaf ecogyfeillgar yn cael ei ddefnyddio bob tro. Rydyn ni bob amser yn monitro ac yn mesur ein heffaith ar yr amgylchedd ac rydyn ni’n parhau i fuddsoddi mewn gwahanol rannau o’r busnes, fel metrigau perfformiad cerbydau i leihau ein hôl troed. Drwy ein Gwasanaethau Ailgylchu yn Nyfed, sydd wedi bod ar waith ers 30 mlynedd, rydym yn darparu atebion i’w gwneud yn haws i unigolion a busnesau ailgylchu er mwyn helpu i gael dim gwastraff i safleoedd tirlenwi, gan gefnogi ein nod o greu Cymru lanach. Mae pawb yn gyfrifol am ofalu am yr amgylchedd ac rydym yn annog cwmnïau trafnidiaeth eraill i fabwysiadu’r un ethos i barchu ein ffyrdd yng Nghymru a thu hwnt.

Ian Owen
Rheolwr Gyfarwyddwr Owens Grŵp

Mae cael cefnogaeth gan gwmni mor uchel ei broffil yn y sector trafnidiaeth yn wych a bydd yn ein galluogi i fynd â’n negeseuon ymgyrch pwysig ar y ffordd. Dylai lleihau eich ôl troed carbon a gofalu am ein gwlad hardd fod ar frig agenda pob busnes ac mae Grŵp Owens yn gosod esiampl wych gyda’u polisi dim goddefgarwch at sbwriel. Mae Owens Group yn frwdfrydig dros ofalu am y ffyrdd ar draws y wlad ac rydym yn falch iawn eu bod yn rhan o’n taith tuag at Gymru ddi-sbwriel.

Lesley Jones
Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus

Yn ogystal â hysbysebu yn yr awyr agored ledled Cymru, rydyn ni’n chwilio am gwmnïau trafnidiaeth eraill i fynd â’n ymgyrch genedlaethol ar y ffyrdd.

Os ydych chi’n gyflogwr o yrwyr masnachol ac yn awyddus i gefnogi’r ymgyrch, anfonwch e-bost at comms@keepwalestidy.cymru

Mae’r ymgyrch genedlaethol yn cael ei chynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus a chynghorau i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Mae Caru Cymru wedi cael cyllid drwy gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Erthyglau cysylltiedig

Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy
Angen Cynllun Dychwelyd Ernes nawr yn fwy nag erioed

12/03/2024

Darllen mwy
Gwaharddiad ar blastigau untro – beth nesaf?

30/10/2023

Darllen mwy