Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol annibynnol diweddaraf ar lendid strydoedd yng Nghymru. Rydym yn arolygu miloedd o strydoedd ym mhob cwr o’r wlad ac wedi bod yn gwneud hynny ers 2007.
Os ydych yn chwilio am y data sbwriel stryd mwyaf diweddar a dibynadwy ar gyfer Cymru, rydych yn y lle iawn! Rydym yn creu’r unig fesur cyson a chadarn o ddata sbwriel stryd ar gyfer Cymru gyfan.
Mae ein hadroddiad unigryw wedi datgelu bod sbwriel smygu wedi cael ei ganfod ar dair o bob pedair stryd ar draws y wlad yn 2022-23. Er gwaethaf gwelliannau sylweddol mewn sbwriel yn ymwneud â smygu ers i arolygon ddechrau, canfuwyd bonion sigaréts, e-sigaréts, pecynnau a blaen hidlwyr ar 76% o strydoedd eleni. E-sigaréts untro yw’r bwgan newydd a enwir am y tro cyntaf yn adroddiad eleni.
Mae ‘Pa Mor Lân Yw Ein Strydoedd?’ yn dod â chanlyniadau ynghyd o filoedd o arolygon glendid strydoedd i roi ‘cipolwg’ ar faterion sbwriel ac ansawdd amgylcheddol eraill.
Mae prif ganlyniadau adroddiad Pa Mor Lân Yw Ein Strydoedd? yn cynnwys y canlynol:
Darllenwch ein hadroddiad ‘Pa Mor Lân Yw Ein Strydoedd? 2022-23’ a methodoleg yr arolwg.
Gydag ymgyrch blynyddol Gwanwyn Glân Cymru ar y gorwel, rydym yn galw ar bawb i fynd allan a gweithredu yn eich cymuned rhwng 17 Mawrth – 2 Ebrill.
Helpwch i fynd i’r afael â sbwriel ar ein strydoedd, ein mannau gwyrdd a’n traethau trwy wneud addewid i gasglu bag o sbwriel (neu fwy).
Gall pawb wneud gwahaniaeth mawr i’n hamgylchedd.
Cofrestrwch eich digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru eich hun.
19/02/2025
24/01/2025
18/10/2024
29/04/2024