Yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus yn rhoi’r 70 pecyn gardd am ddim olaf i ffwrdd i gymunedau ar draws y wlad.
Ers lansio cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2020, mae dros 900 o erddi wedi cael eu creu, eu hadfer a’u gwella ar draws Cymru. Bellach, gydag ond 70 o becynnau ar ôl a’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais eleni’n prysur agosáu, mae amser yn rhedeg allan i gymunedau gymryd rhan.
Mae’n anhygoel gweld sefydliadau o bob math a maint yn elwa ar Leoedd Lleol ar gyfer Natur – o orsafoedd tân ac ysbytai i elusennau’r digartref a chymdeithasau tai. Mae’r gerddi newydd nid yn unig yn creu hafan ar gyfer bywyd gwyllt, ond hefyd yn rhoi’r hwb sydd ei angen ar gymunedau ar draws Cymru. Peidiwch ag oedi. Os gwyddoch chi am ardal a allai elwa ar gael ei thrawsnewid, gwnewch gais nawr cyn ei bod yn rhy hwyr! Will MillardCyflwynydd y BBC a Llysgennad Cadwch Gymru’n Daclus
Will MillardCyflwynydd y BBC a Llysgennad Cadwch Gymru’n Daclus
Beth mae pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ei gynnwys?
Mae pob pecyn perllan wedi mynd, ond mae pecynnau bywyd gwyllt a thyfu bwyd yn dal ar gael. Mae pob un yn cynnwys planhigion cynhenid, offer a deunyddiau eraill sydd eu hangen i greu gardd. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ymdrin â’r archebion a’r dosbarthu ac mae eu staff arbenigol hyd yn oed yn rhoi cymorth gyda’r adeiladu a’r plannu.
Pecynnau dechreuol ar gyfer grwpiau cymunedol neu wirfoddol sydd am greu Gardd Tyfu Bwyd neu Erddi Bywyd Gwyllt bach.
Pecynnau datblygu ar gyfer sefydliadau cymunedol sy’n barod i ymgymryd â phrosiect mwy ac adeiladu Gardd Tyfu Bwyd neu Ardd Bywyd Gwyllt.
Ariennir y fenter ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, rhan o raglen ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar eich stepen drws’ a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
I wneud cais am becyn gardd am ddim, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun 21 Tachwedd 2022.
19/04/2024
29/02/2024
03/08/2023
12/06/2023