Mae’r gwanwyn wedi tyfu, mae bylbiau’n blodeuo, ac mae’r dyddiau’n hirach, felly rydyn ni’n meddwl mai dyma’r amser perffaith i ddatgelu ein pecynnau gardd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur newydd sbon!
Diolch i gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru, mae bellach bum categori i ddewis ohonynt, yn dibynnu ar y gofod sydd gennych a maint yr ardd yr hoffech ei chreu.
Mae’r Pecynnau Dechreuol, Datblygu a Pherllan sy’n boblogaidd iawn o hyd ar gael, ond rydym hefyd wedi cyflwyno Pecynnau Enfawr a Adlenwi!
Dyma drosolwg o’r holl becynnau am ddim sydd ar gael:
Mae Pecynnau Dechreuol ar gyfer grwpiau sydd am ymgymryd â phrosiect garddio bach.
Mae Pecynnau Datblygu ar gyfer sefydliadau cymunedol sydd ag ychydig mwy o le, sydd eisiau creu gardd tyfu bwyd neu ardd bywyd gwyllt ar raddfa fwy.
Mae Pecynnau Perllan wedi’u cynllunio i greu canolbwynt awyr agored sy’n llawn coed ffrwythau, bylbiau a blychau cynefinoedd. Gall grwpiau a sefydliadau cymunedol wneud cais am ein Pecynnau Perllannau Cymunedol, tra gall ysgolion wneud cais am ein Pecynnau Perllannau Ysgol.
Mae Pecynnau Enfawr ar gyfer grwpiau a sefydliadau sy’n barod i ymgymryd â phrosiect gardd gymunedol uchelgeisiol ac sydd â lle gwag enfawr ar gael i’w drawsnewid.
Mae Pecynnau Adlenwi ar gael i safleoedd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur presennol yn unig, gydag eitemau ‘adlenwi’ i helpu i wella’r gerddi ymhellach fyth.
Gwnewch gais nawr i osgoi colli allan
Ers ei lansio yn 2020, mae mwy na 1,300 o erddi wedi’u creu, eu hadfer a’u gwella ledled Cymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae hyn wedi cynnwys gwasanaethau brys, ysgolion, grwpiau ieuenctid, clybiau chwaraeon ac elusennau anabledd.
Mae’n hawdd gwneud cais. Ewch i dudalen we Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, dewiswch eich pecyn, darllenwch drwy’r canllawiau, a chwblhewch y ffurflen gais ar-lein, gan wneud yn siŵr eich bod yn ateb pob cwestiwn.
Os oes gennych unrhyw broblemau, mae ein Tîm Natur wrth law i helpu. Ebostiwch nature@keepwalestidy.cymru
Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n ymwneud yn gryf â’r gymuned, yn ogystal â’r rheini mewn trefi, dinasoedd, ardaloedd difreintiedig a mannau sydd ag ychydig neu ddim mynediad at natur. Rydym hefyd yn awyddus iawn i groesawu ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru.
Po fwyaf o amser rwy'n ei dreulio yn gweithio gyda'n timau ledled Cymru yn creu gerddi Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, y mwyaf balch yr wyf yn dod o'r canlyniadau anhygoel yr ydym yn eu gweld. Mae'r buddion wedi mynd ymhell y tu hwnt i greu cynefinoedd hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt; mae'r gerddi newydd yn helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd ac yn cael pobl i natur tra’n rhoi hwb mawr ei angen i iechyd a lles pobl. Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus
Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus
Ariennir y fenter gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru.
Edrychwch ar #NôliNatur ar gyfryngau cymdeithasol i gael y diweddariadau diweddaraf.
29/02/2024
03/08/2023
12/06/2023
12/01/2023