A A A

Plannu ‘Coedwigoedd Bychain’ cyntaf Cymru

Rydym yn llawn cyffro wrth blannu’r Coedwigoedd Bychain swyddogol cyntaf yng Nghymru!

Bydd tua 1,000 o goed yn cael eu plannu ar bob safle, gan greu coedwigoedd cynhenid, trwychus maint cwrt tennis mewn pum ardal drefol.

Mae lleoliadau yn Mhen-y-bont ar Ogwr, Conwy, Gwynedd, Bro Morgannwg a Chaerdydd wedi cael eu dewis yn ofalus i gael yr effaith orau ar natur a chymunedau trefol.  Mae gwaith i baratoi’r pridd eisoes wedi ei gwblhau, a bydd 25 o rywogaethau cynhenid yn cael eu plannu erbyn diwedd Chwefror.

Mae creu Coedwigoedd Bychain yng Nghymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Goedwig Genedlaethol ar gyfer Cymru.

Bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn dilyn dull arbennig o blannu y mae wedi ei brofi ei fod yn tyfu’n gyflymach, yn fwy trwchus ac yn fwy bioamrywiol na choetir safonol sydd newydd ei blannu.  Y nod yw denu bywyd gwyllt, gwella ansawdd aer, dileu nwyon tŷ gwydr niweidiol o’r atmosffer a helpu i leihau llifogydd lleol.

Bydd y coedwigoedd yn cynnwys llwybrau ac ystafelloedd dosbarth awyr agored, gan ddarparu lle i bobl ymlacio, mwynhau awyr iach ac ailgysylltu â byd natur.

Ble mae’r Coedwigoedd Bychain yng Nghymru?

Lleoliadau’r Coedwigoedd Bychain cyntaf yng Nghymru yw:

  • Nantymoel, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Y Cae Chwarae, St Asaph Avenue, Bae Cinmel, Conwy
  • Coed Bach Pendalar/ Ysgol Pendalar, Gwynedd
  • Pencoedtre, Gibbonsdown, Bro Morgannwg
  • Bae Caerdydd

Pam y mae Coedwigoedd Bychain yn bwysig?

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Mae ein mannau gwyrdd wedi chwarae rhan enfawr yn gwella ein llesiant trwy gydol pandemig Covid-19, ac rwyf wrth fy modd bod Cadwch Gymru’n Daclus, trwy ein rhaglen Y Goedwig Fechan, wedi dechrau plannu ein Coedwigoedd Bychain yng Nghymru. Rwy’n awyddus bod pawb yn cael cyfle i elwa ar goetir, a bod yr ardaloedd hyn wedi cael eu dewis er mwyn cynnig hyn mewn lleoedd a fyddai, fel arall, heb lawer o ofod gwyrdd ar gael.


Ychwanegodd y Gweinidog:

Rwyf yn annog y rheiny sydd â diddordeb yn natblygiad y Goedwig Genedlaethol i fynychu ein digwyddiad am ddim ar-lein o 10-12 Mawrth, fydd yn archwilio buddion coetir a choed i bawb. Gall y rheiny sydd â diddordeb gofrestru yn nationalforestwales@gov.wales.


Dywedodd Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:

Mae’n gyffrous gweld y pum Coedwig Fechan cyntaf yn cael eu ffurfio yng Nghymru. Er eu bod yn fach o ran maint, rydym yn siŵr y byddant yn cael effaith fawr ar fioamrywiaeth a llesiant pobl am genedlaethau i ddod. Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru, ein partneriaid yn Earthwatch a Choed Cadw am wneud hyn yn bosibl. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i ymestyn y cynllun i drefi a dinasoedd eraill ar hyd a lled Cymru.


Ewch i’n tudalen Y Goedwig Fechan am fwy o wybodaeth.

Erthyglau cysylltiedig

Pecynnau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur newydd ar gael

19/04/2024

Darllen mwy
Cyflwyno Prosiect Y Goedwig Hir Drefol

29/02/2024

Darllen mwy
Ewch ati i dyfu yn ystod Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd – mae cymaint o fuddion i gael rhandir

03/08/2023

Darllen mwy
Gwnewch gais nawr am becyn gardd am ddim

12/06/2023

Darllen mwy