Rydym yn falch i gyhoeddi enillwyr cystadleuaeth genedlaethol Gohebwyr Ifanc yr Amgylchedd eleni!
Cymerodd newyddiadurwyr ifanc uchelgeisiol o bob cwr o Gymru ran yn y gystadleuaeth, gan godi ymwybyddiaeth o effeithiau llygredd plastig trwy erthyglau ysgrifenedig, ffotograffiaeth a ffilm.
Mae’r gystadleuaeth Gohebwyr Ifanc yr Amgylchedd sy’n rhan o’r ymgyrch Litter Less yn gystadleuaeth newyddiaduraeth ryngwladol, sy’n cael ei rhedeg yng Nghymru gan yr elusen Cadwch Gymru’n Daclus ar ran FEE (Y Sefydliad Addysg Amgylcheddol) a’i hariannu gan Sefydliad Mars Wrigley.
Rydym yn falch iawn i gyhoeddi enillwyr cenedlaethol Cymru 2021 yw:
Osian Mathias o Gaerdydd a ddaeth i’r brig yn y categori erthygl ysgrifenedig 19-25. Roedd adroddiad Osian ‘Plastigion a’r Pandemig’, yn edrych ar effaith COVID-19 ar sbwriel yn Ne Cymru. Gallwch ddarllen yr erthygl lawn, sy’n cynnwys cyfweliadau gyda Grŵp Afonydd Caerdydd a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol, yma.
Enillodd Ellis Jones o Ysgol Uwchradd Caerdydd y categori ffotograffiaeth 11-14 am ei lun gyda’r teitl “Nearly Made It”. Cafodd Ellis ei ysbrydoli gan ymweliad â pharc lleol a gweld y sbwriel oedd wedi’i daflu ychydig fetrau o’r bin. Gallwch weld y llun yma.
Enillodd Emily McDonagh o Llantwit Major y gystadleuaeth erthygl 11-14. Ysgrifennodd am effaith llygredd plastig ar ei dref ac ar raddfa fyd-eang. Gallwch weld ei chofnod yma.
Enillydd y categori ffotograffiaeth 15-18 yw’r casglwr sbwriel prysur, Daniel Lewis o Ferthyr Tudful. Mae “The Bogey Road” gan Daniel yn dangos yr holl sbwriel a thipio anghyfreithlon a welodd ar un darn o ffordd dros ychydig wythnosau. Gallwch weld y llun yma.
Enillodd disgyblion o Ysgol Cae’r Drindod, yn Ystrad Mynach y categori ffilm 11-14 gyda’u ffilm,“Don’t Bin the Bag”. Gwnaeth y ffilm hon sy’n llawn awgrymiadau am sut i ailddefnyddio eitemau plastig gryn argraff ar feirniaid y gystadleuaeth. Gallwch wylio’r ffilm yma.
Enillodd enillwyr y llynedd, Ysgol Clywedog, yn Wrecsam y categori ffilm 15-18 gyda’u ffilm ‘How can we reduce global plastic pollution?’. Cydweithiodd y disgyblion ar-lein ag ysgolion yn Libanus a Melilla (Sbaen) i dynnu sylw at sut mae llygredd plastig yn effeithio ar wledydd ledled y byd. Gallwch wylio’r ffilm yma.
Rwyf mor hapus i ennill y gystadleuaeth Gohebwyr Ifanc yr Amgylchedd Cymru. Mae ennill gwobr yn golygu cymaint i mi a gan ei bod yn gysylltiedig â’r amgylchedd mae’n golygu cymaint mwy. Ellis Jones Enillydd y categori ffotograffiaeth 11-14
Ellis Jones Enillydd y categori ffotograffiaeth 11-14
Cawsom ein syfrdanu gan yr ymateb i gystadleuaeth YRE eleni. Er bod pobl ifanc wedi wynebu cyfnod anodd dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'n amlwg nad yw eu hymrwymiad i'r amgylchedd wedi newid. Gobeithio y bydd yr erthyglau, ffotograffau a fideos arobryn hyn yn ysbrydoli pobl eraill i newid eu hymddygiad a lleihau eu gwastraff plastig. Hoffwn ddymuno’r gorau i’n henillwyr cenedlaethol yn y gystadleuaeth ryngwladol. Lesley JonesPrif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus
Lesley JonesPrif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus
Ewch i’n tudalennau YRE i ddysgu mwy am y rhaglen.
02/12/2024
19/11/2024
15/11/2024
14/11/2024