A A A

Prif Weithredwr Lesley Jones yn ymddeol ym mis Hydref

Bydd ein Prif Weithredwr Lesley Jones yn camu i lawr o’i rôl fis Hydref eleni ar ôl 12 mlynedd wrth y llyw.

Ers 2010, mae Lesley wedi hyrwyddo mentrau i greu a diogelu mannau gwyrdd yn llwyddiannus, yn cynnwys Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Y Goedwig Hir, Y Goedwig Fechan a’r Faner Werdd ar gyfer Parciau. Hi hefyd oedd y grym y tu ôl i fudiad Caru Cymru – ein menter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff. Dywedodd Lesley:

Mae wedi bod yn fraint bod yn Brif Swyddog Gweithredol Cadwch Gymru’n Daclus dros y deuddeg mlynedd pleserus a boddhaus diwethaf. Rwyf wedi dysgu cymaint ac wedi cyfarfod â chymaint o bobl ragorol ar hyd y ffordd. Mae ymrwymiad ac angerdd y tîm o staff wedi fy ysbrydoli a thrwy gydol fy amser yma, rwyf wedi cael cefnogaeth barhaus gan ein Hymddiriedolwyr wrth wynebu heriau a chreu mentrau newydd. Mae llawer wedi cael ei gyflawni trwy gydweithio fel tîm ac mewn partneriaeth ag eraill. Rydym wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i lawer o bobl ac i’n hamgylchedd gwerthfawr.


Bydd Lesley yn ymddeol o waith amser llawn i dreulio mwy o amser gyda’i theulu a’i chi annwyl, Ruby. Fodd bynnag, bydd yn parhau fel llywydd y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE), rôl y mae wedi ei chyflawni ers 2016. O dan arweinyddiaeth Lesley, mae rhaglenni FEE, yn cynnwys Eco-Sgolion, Y Faner Las a Goriad Gwyrdd (ar gyfer twristiaeth) wedi tyfu’n fyd-eang ac ar draws Cymru.

Ychwanegodd Lesley:

Wrth i Cadwch Gymru’n Daclus ddechrau eu 50fed blwyddyn, mae’r amser yn iawn i mi drosglwyddo’r awenau. Byddaf yn gweld eisiau arwain y sefydliad rhagorol hwn, ond rwy’n gwybod y bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn parhau’r gwaith gwych a phwysig y mae’n ei wneud.


Ar ran y Bwrdd a’r tîm cyfan yn Cadwch Gymru’n Daclus, dywedodd y Cadeirydd, Ed Evans:

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Lesley am ei chyfraniad eithriadol dros y 12 mlynedd diwethaf. Mae ei hangerdd a’i hymrwymiad wedi galluogi Cadwch Gymru’n Daclus i ffynnu, gan wneud gwahaniaeth sylweddol i’n hamgylchedd ac i gymunedau ar draws y wlad. Bydd y Bwrdd, y staff a’r gwirfoddolwyr yn gwneud ein gorau glas i ddatblygu gwaith Lesley. Rwy’n siŵr y byddwn yn dod o hyd i’r person iawn i’n helpu i gyflawni ac atgyfnerthu ein henw da fel elusen amgylcheddol flaenllaw


Ymunwch â ni a Cadwch Gymru’n Daclus

Rydym bellach yn recriwtio Prif Weithredwr newydd. A oes gennych chi’r nodweddion, y sgiliau a’r profiad i arwain elusen uchelgeisiol a dibynadwy? Os ydych chi’n rhannu ein gweledigaeth o Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau, byddem wrth ein bodd yn derbyn eich ffurflen gais i ymuno â ni.

Gwnewch gais ar gyfer ein Prif Weithredwr newydd

Erthyglau cysylltiedig

Gwneud cyfraniad i Cadwch Gymru’n Daclus am ddim gydag easyfundraising!

02/12/2024

Darllen mwy
Datganiad CDE Cadwch Gymru’n Daclus Tachwedd 2024

19/11/2024

Darllen mwy
Ieuenctid yn arwain y galw am weithredu hinsawdd yn COP Ieuenctid Cymru 2024

15/11/2024

Darllen mwy
Parciau Cymru’n cael eu cydnabod fel y ‘gorau o’r goreuon’

14/11/2024

Darllen mwy