JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillSbwriel a gwastraff

Prosiect Caru Cymru yn ennill gwobr arloesedd

Rhannu

Derbyniodd prosiect Caru Cymru un o’r prif anrhydeddau yn ‘Dathlu Cymru Wledig’ yr wythnos diwethaf.

Cawsom y wobr am arloesedd i gydnabod ein rhwydwaith cynyddol o Hybiau Codi Sbwriel, Ardaloedd Di-sbwriel a’r treialon yr ydym yn eu cynnal ar lefel leol i roi atebion newydd ar brawf ar gyfer materion amgylcheddol pwysig.

Roedd y gwobrau’n rhan o Ddathlu Cymru Wledig dros ddau ddiwrnod ar Faes y Sioe Frenhinol. Roedd y digwyddiad yn gyfle i edrych ar gyflawniadau prosiectau sydd wedi elwa ar Raglen Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n briodol iawn wrth i’r RhDG ddod i ben, ein bod yn dathlu ymdrechion a gwaith gwych unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled Cymru, sydd wedi manteisio i’r eithaf ar y cyllid hwn i helpu pobl a chymunedau. Cafwyd llawer o brosiectau llwyddiannus a hoffwn longyfarch bob un ohonynt, yn cynnwys y pedwar sydd yn derbyn gwobrau yn y digwyddiad Dathlu Cymru Wledig, am y cyfraniadau pwysig y maent wedi eu gwneud. Wrth i ni ddatblygu ymagwedd cyfan gwbl Gymreig tuag at yr economi wledig yn y dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn dysgu o’r prosiectau hyn a’u datblygu.

Lesley Griffiths Y Gweinidog Materion Gwledig

Caru Cymru yw ein menter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff, gan weithio mewn partneriaeth â phob awdurdod lleol yng Nghymru. Ei nod yw ysbrydoli pawb i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Ers lansio Caru Cymru ym mis Mawrth 2021, rydym wedi:

  • Creu 150 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Mae 50 o Ardaloedd Di-sbwriel ar waith gyda mwy na 100 ar y gweill
  • Cynnal tri ymgyrch cenedlaethol i fynd i’r afael â sbwriel y cyfnod clo, baw cŵn a sbwriel ar ochr y ffordd
  • Trefnu dau ymgyrch glanhau yn cynnwys dros 20,000 o wirfoddolwyr
  • Lansio pecyn cymorth ar gyfer ymgyrchoedd yn llawn adnoddau y gellir eu lawrlwytho am ddim
  • Treialu ymyriadau newydd i atal sbwriel a lleihau gwastraff ym mhob awdurdod lleol bron

Rwyf wrth fy modd bod Caru Cymru wedi cael ei gydnabod ar gyfer y wobr flaenllaw hon. Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o fenter sydd yn dod â phobl ynghyd, ac yn darparu’r offer, yr arloesedd a’r cymorth sydd ei angen i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n hamgylchedd. Wrth gwrs, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ymrwymiad ein partneriaid yn yr awdurdodau lleol a chymorth parhaus Llywodraeth Cymru.

Lesley Jones Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o fudiad #CaruCymru

Nid clwb egsgliwsif yw Caru Cymru – gall pawb ymuno. Ewch i Hyb Caru Cymru i weld sut gallwch ymuno â’r mudiad.

Dysgu mwy

Cyllidwyd Caru Cymru drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13