A A A

Pysgodfa yng Nghymru yw’r unig fan gwyrdd a reolir gan y gymuned i gael ei chynnwys yn y Deg Uchaf yn y DU

Bwrodd dros 21,000 o aelodau’r cyhoedd eu pleidlais yng Ngwobrau Dewis y Bobl eleni, gan enwi Pwll Llyswyry ymysg eu deg man gwyrdd Gwobr y Faner Werdd gorau yn y DU.

Y bysgodfa a’r man gwyrdd sy’n cael ei redeg yn wirfoddol ar gyrion Casnewydd yw’r unig safle yng Nghymru â Gwobr Gymunedol y Faner Werdd i gyrraedd y 10 uchaf eleni.

Pwll Llyswyry oedd un o’r 2,216 o barciau a mannau gwyrdd yn y DU oedd yn bodloni safon Gwobr y Faner Werdd ar gyfer 2023 – y safon ansawdd rhyngwladol a reolir yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus, sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda.

Mae cael eich enwi yn 10 Uchaf Dewis y Bobl yn y DU yn gyflawniad enfawr i unrhyw safle, ond mae bod yr unig enillydd Gwobr Gymunedol eleni yn dystiolaeth o waith caled ac ymroddiad yr holl wirfoddolwyr yn Llyswyry. Mae’r gymuned yn gweithio’n ddiflino i gynnal safonau a sicrhau bod pawb sy’n defnyddio’r bysgodfa a’r man gwyrdd o’i chwmpas yn gallu elwa ohoni. Mae’r gydnabyddiaeth yn rhagorol, da iawn bawb.

Lucy Prisk
Cydlynydd y Faner Werdd i Cadwch Gymru’n Daclus

Pwll Llyswyry yw un o’r tri safle yng Nghymru i gyrraedd 10 Uchaf Dewis y Bobl, ynghyd â Pharc Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot a Pharc Slip ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Mewn tymor gwobrwyo llwyddiannus iawn i fannau gwyrdd Cymru, mae gwobrau y Gorau o’r Goreuon y Faner Werdd hefyd wedi cydnabod staff a gwirfoddolwyr o bum safle’r Faner Werdd ar draws Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys Fferm y Fforest yng Nghaerdydd, Bryn y Beili yn yr Wyddgrug, a Fferm Gymunedol Abertawe, gyda’r gwirfoddolwr, Jaiden Davies, yn ennill Gwirfoddolwr Ifanc Gorau’r Flwyddyn.

Gweler isod am restr lawn o enillwyr 2023:

Gwobrau y Gorau o’r Goreuon

  • Prosiect Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd – Rhandiroedd Ward y Fan
  • Menter Iechyd Orau – Bryn y Beili
  • Tîm y Flwyddyn (staff y parc) – Fferm y Fforest (Cyngor Caerdydd)
  • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn – Jaiden Daniels (Fferm Gymunedol Abertawe)
  • Dathliad Codi’r Faner (llun) – Cae Chwarae Coffa Llanfallteg

Gwobrau Dewis y Bobl

  • Pwll Llyswyry
  • Parc Slip
  • Parc Margam

Darganfyddwch ble mae’r parc Baner Werdd agosaf i chi

I ddod o hyd i’ch safle Baner Werdd agosaf ar ein map rhyngweithiol, ewch i: Gwobr y Faner Werdd – Cadwch Gymru’n Daclus

Ymunwch â theulu’r Faner Werdd

Ydych chi’n gofalu ar ôl parc neu fan gwyrdd o ansawdd gwych? A yw eich grŵp neu dîm yn haeddu cydnabyddiaeth ryngwladol? Gallwch wneud cais nawr am Wobr y Faner Werdd neu Wobr Gymunedol y Faner Werdd.

Mae mwy o wybodaeth am raglen y wobr ar gael yma: Baner Werdd ar gyfer Parciau – Cadwch Gymru’n Daclus

Erthyglau cysylltiedig

Dathlu enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2024

17/09/2024

Darllen mwy
12 safle treftadaeth Cymru yn cael statws dwbl y Faner Werdd

10/09/2024

Darllen mwy
Cymru yn chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall ar draws y byd

16/07/2024

Darllen mwy
Mae Loteri Cymru Hardd wedi cyrraedd!

11/07/2024

Darllen mwy