A A A

Rhoi help llaw i natur efo pecyn gardd am ddim

Ers blwyddyn gyntaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2020, rydym wedi creu, hadfer a gwella bron 800 o erddi dros Gymru gyfan – ac mae’r ceisiadau bellach wedi ailagor. Mae ein system ymgeisio ar-lein newydd yn ei gwneud hi’n hawdd iawn gwneud cais, yn ogystal â chynnig adnoddau, arweiniad a diweddariadau o’r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Gallwch ddewis o erddi bywyd gwyllt a thyfu bwyd bach neu ar raddfa fwy, neu am y tro cyntaf mae’r cynllun yn cynnig pecyn perllan gymunedol newydd.

Beth mae pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ei gynnwys?

Mae pob pecyn yn cynnwys planhigion brodorol, offer a deunyddiau eraill. Byddwn yn edrych ar ôl yr archebion a’r danfoniadau, a bydd ein swyddogion prosiect yno i helpu adeiladu’r ardd newydd. Mae ein pecynnau yn perthyn i dri chategori.

Pecynnau dechreuol ar gyfer grwpiau cymunedol neu wirfoddol sydd am greu Gardd Tyfu Bwyd neu Erddi Bywyd Gwyllt bach.

Pecynnau datblygu ar gyfer sefydliadau cymunedol sy’n barod i ymgymryd â phrosiect mwy ac adeiladu Gardd Tyfu Bwyd neu Ardd Bywyd Gwyllt.

Perllan gymunedol ar gyfer sefydliadau cymunedol sydd am greu perllan gymunedol fach ar dir sydd ‘yn berchnogaeth ddielw’

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pobl wir wedi gwerthfawrogi gwerth byd natur ac rydym yn falch iawn o gynnig pecynnau garddio am ddim eto i gymunedau. Rydyn ni’n gwybod bod garddio a bod allan ym myd natur yn cael effaith gadarnhaol ar les meddwl, ac mae’n ffordd wych o gadw’n heini a chwrdd â phobl newydd. Diolch i gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru a’n partneriaid mae ein pecynnau gardd yn cynnwys yr holl ddeunyddiau ac offer sydd eu hangen arnoch i greu gofod newydd ar gyfer natur a bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus wrth law i osod yr ardd.

Louise Tambini
Dirprwy Brif Weithredwr

Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar eich stepen drws’ a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Ewch i’n tudalen Lleoedd Lleol i Natur am ragor o wybodaeth am y cynllun ac i wneud cais.

Gwnewch gais nawr

Erthyglau cysylltiedig

Pecynnau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur newydd ar gael

19/04/2024

Darllen mwy
Cyflwyno Prosiect Y Goedwig Hir Drefol

29/02/2024

Darllen mwy
Ewch ati i dyfu yn ystod Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd – mae cymaint o fuddion i gael rhandir

03/08/2023

Darllen mwy
Gwnewch gais nawr am becyn gardd am ddim

12/06/2023

Darllen mwy