Rhowch eich barn am draethau a thwristiaeth yng Nghymru

Mae Cymru’n gartref i draethau gwirioneddol drawiadol ac mae twristiaeth yn chwarae rhan enfawr yn economi Cymru.

Rydym eisiau cefnogi busnesau, cynghorau a phreswylwyr i ddiogelu’r mannau arbennig hyn er mwyn sicrhau bod pobl eisiau dychwelyd dro ar ôl tro.

Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi lansio arolwg traethau a thwristiaeth Cymru i gael safbwyntiau ar dwristiaeth gynaliadwy a’r hyn sy’n gwneud ein traethau yn fannau gwych i ymweld â nhw.

Helpwch ni i ddiogelu a gwella ein hardaloedd arfordirol ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd trwy rannu eich meddyliau am draethau a thwristiaeth Cymru. Ni fydd yn cymryd mwy na phum munud o’ch amser.

Bydd cymryd rhan yn arolwg traethau a thwristiaeth Cymru yn rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i ni fydd o gymorth i wella a diogelu ein hamgylcheddau arfordirol yn well ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. A yw cynaliadwyedd ar frig eich rhestr wrth archebu gwyliau? Pa un yw eich hoff draeth i ymweld ag ef yng Nghymru? Beth sy’n gwneud eich traeth gorau mor arbennig? Beth mae traeth Baner Las yn ei olygu i chi? Dyma rai o’r cwestiynau yr ydym yn gobeithio eu harchwilio, ond mae angen eich cymorth chi arnom. Gwyddom pa mor bwysig ydyw ein bod yn gallu cadw ein harfordiroedd yn lân ac yn ddiogel, ac rydym eisiau i leisiau pawb gael eu clywed. Felly rhannwch yr arolwg hwn gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr hefyd.

Owen Derbyshire
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Dweud eich dweud

P’un ai eich bod yn preswylio yng Nghymru neu ar ymweliad, hoffem gael eich safbwyntiau ar ein traethau a thwristiaeth.

Mae ein harolwg dienw ar agor tan Dydd Gwener 3 Chwefror 2023.

Cwblhewch ein harolwg ar-lein

Erthyglau cysylltiedig

Gwobrau Arfordir Cymru 2023

12/05/2023

Darllen mwy
Gwobrau Cymru Daclus 2023: mae gennym enillwyr!

20/04/2023

Darllen mwy
Coroni Tîm Parc Bute y gorau yn y DU

22/11/2022

Darllen mwy
Enwi Parc Gwledig Margam yn un o’r goreuon yn y DU gyfan

15/11/2022

Darllen mwy