Rydym i gyd wedi cael ein brawychu a’n tristáu gan y rhyfel sy’n datblygu yn Wcráin.
Yma yn Cadwch Gymru’n Daclus, mae ein cysylltiad â’n partneriaid rhyngwladol yn teimlo’n bwysicach nag erioed.
Rydym wedi bod yn aelod o’r Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) ers 1987. Yn yr amser hwn, mae’r FEE wedi tyfu a dyma bellach sefydliad addysg amgylcheddol mwyaf y byd, gydag aelodau ar bob cyfandir.
Daw cryfder yr FEE o’i rwydwaith byd-eang, ac rydym yn falch o sefyll gydag aelodau eraill mewn undod ag Wcráin.
Hoffem rannu’r neges hon ar ran yr FEE:
Fel rhwydwaith byd-eang o sefydliadau cymdeithas sifil, rydym i gyd wedi teimlo pryder mawr ac arswyd wrth i ni wylio’r sefyllfa’n datblygu yn Wcráin. Rydym yn sefyll yn barod i gynnig cymorth – lle y gallwn a phryd bynnag y gallwn – i’n cydweithwyr yn FEE Wcráin. Rydym wedi ein hysbrydoli gan weithredoedd llawer o aelod-sefydliadau’r FEE sydd eisoes wedi cynnig lloches a chymorth i bobl Wcráin sydd wedi eu dadleoli, menywod a phlant yn arbennig. Mae cymorth dyngarol enfawr wedi cael ei gynnig gan sawl gwlad, ac rydym yn annog pob un ohonoch i ystyried camau addas y gallwch eu cymryd i gynorthwyo pobl Wcráin tra’n ymroi’n ddyledus i adnabod sefydliadau sydd yn cynnig cymorth gonest a di-duedd.
Mae’r rhyfel yn Wcráin wedi ein gorfodi hefyd i adlewyrchu ar y graddau y mae marchnadoedd ynni yn agored i geowleidyddiaeth. Yn hyn o beth, mae cenhadaeth a gweledigaeth ein strategaeth GAIA 20:30 yn parhau’n ddigyfnewid. Mae’r gwynt, yr haul a’r llanw yn rhad ac am ddim ac, yr un mor bwysig, nid oes ffiniau gwleidyddol iddynt. Mae ffynonellau ynni adnewyddadwy yn cael eu dosbarthu’n eang ar draws ein planed, yn wahanol i danwydd ffosil sydd wedi ei gyfyngu i rai rhanbarthau allweddol. Mae’n rhaid i ni fod yn gadarn yn ein hamcanion i symud oddi wrth danwydd ffosil, i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, i ddiogelu bioamrywiaeth byd-eang, ac i ddileu llygredd amgylcheddol. Po leiaf y byddwn yn dibynnu ar danwydd ffosil, y mwyaf cynaliadwy a heddychlon y bydd ein byd i genedlaethau’r dyfodol.
Byddwn yn rhannu negeseuon gobaith a chadernid gyda dilynwyr Cadwch Gymru’n Daclus dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod, a byddwn yn annog Eco-Sgolion, busnesau Goriad Gwyrdd, gohebwyr ifanc, a thraethau y Faner Las i wneud yr un peth.
Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi aelodau’r tîm sydd yn darparu cymorth dyngarol i bobl Wcráin.
Fel holl aelodau’r FEE, byddwn yn defnyddio ‘Blodyn Haul Rhyddid’ yn ein cyfathrebiadau – blodyn cenedlaethol Wcráin sydd yn gyflym iawn wedi datblygu’n symbol o undod.
05/02/2025
08/10/2024
11/07/2023
06/03/2023