Cyflwynwyd Gwobr Barcud Arian i Swyddog Prosiect Cadw Cymru’n Daclus, Rachel Palmer, i gydnabod blynyddoedd lawer o ymroddiad wrth annog gwirfoddolwyr i ofalu am yr amgylchedd lleol.
Mae Gwobr Barcud Arian Cyngor Sir Powys yn wobr ddinesig a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, i gydnabod ymroddiad neilltuol i’r gymuned. Yn ogystal â bod yn Swyddog Prosiect Cadw Cymru’n Daclus i Bowys ers 15 mlynedd, mae’r wobr hefyd yn cydnabod ei gyrfa flaenorol yng ngwasanaeth amgueddfeydd y cyngor.
Enwebwyd Rachel gan James Thompson, Rheolwr Ymwybyddiaeth a Gorfodaeth Gwastraff y cyngor, fel diolch am ei gwaith caled dros y blynyddoedd. Trwy gydol ei hamser fel Swyddog Prosiect Cadw Cymru’n Daclus i Bowys, mae Rachel wedi ymroi i gefnogi prosiectau cymunedol ac amgylcheddol yn y sir. Mae wedi helpu ysgolion, grwpiau cymunedol, elusennau, busnesau, cynghorwyr ac unigolion lleol i weithredu’n uniongyrchol i helpu i wneud eu cymunedau’n lanach a gwyrddach.
Mae'n hyfryd cael cydnabod ymrwymiad ac ymroddiad Rachel i sir Powys yn swyddogol ac er fod y wobr i Rachel yn bersonol, mae hefyd yn adlewyrchu gwaith caled gymaint o'r gwirfoddolwyr lleol ar draws Powys sy'n gwneud gymaint i geisio cadw'r sir yn glir o sbwriel.
Mae Rachel a'i gwirfoddolwyr wedi gwneud gymaint i Bowys, nid dim ond casglu sbwriel ond hefyd annog prosiectau amgylcheddol, annog bywyd gwyllt a chynefinoedd natur a mentrau garddio ar draws y sir.
"Rwy'n gwybod o wirfoddoli gyda thasgau amgylcheddol lleol, gymaint y mae hyn yn gwella iechyd corfforol a meddwl y rhai sy'n cymryd rhan, yn ogystal â gwella'r amgylchedd lleol i'r gymuned gyfan.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe
Rwyf wrth fy modd bod cyfraniad eithriadol Rachel ym Mhowys dros y 15 mlynedd diwethaf wedi cael ei gydnabod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Powys. Diolch i James Thompson am ei henwebu. Mae Rachel wedi gweithio’n agos gyda’n partner awdurdod lleol a chymaint o bobl eraill ym Mhowys i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau ar draws y sir. Mae Rachel wedi bod yn gydweithiwr rhagorol dros flynyddoedd lawer a byddwn yn gweld ei heisiau’n fawr. Dymunaf ymddeoliad iach a hapus iddi ar ran pawb yn Cadwch Gymru’n Daclus.
Ychwanegodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Mae Jodie Griffith wedi dechrau gweithio ar y cyd â Rachel fel Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer Powys nes bod Rachel yn ymddeol yn nes ymlaen eleni. Mae gan Jodie flynyddoedd lawer o brofiad o weithio ym maes datblygu cymunedol a materion amgylcheddol a bydd yn parhau gyda’r gwaith gwych ym Mhowys: Jodie.Griffith@keepwalestidy.cymru












