Rydym yn gweithio gyda Hubbub, Ellipsis Earth a phartneriaid awdurdodau lleol ar brosiect newydd i fynd i’r afael â sbwriel ar ochr y ffordd yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg
Mae mapio gwyddonol wedi cael ei ddefnyddio i fesur lefelau sbwriel ar hyd rhwydweithiau ffyrdd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Mae’r canlyniadau’n dangos i sbwriel gael ei ollwng bob tair eiliad ar gyfartaledd! Gallai hynny fod yn 28,800 darn o sbwriel y dydd!
1. Mae ymchwil ar sbwriel ar ochr y ffordd yn dangos ei fod yn fwy anodd mynd i’r afael ag ef na sbwriel arall. Mae’n fwy anhysbys nag ar strydoedd mawr, yn anodd (drud) i’w godi oherwydd traffig a llystyfiant, ac mae ei bresenoldeb yn denu mwy o sbwriel.
2. Mae cyffyrdd yn peri problem: Mae sbwriel yn gyffredin lle mae pobl yn arafu, e.e. wrth gyffyrdd, slipffyrdd a chylchfannau. Yng Nghaerdydd, roedd 20% o sbwriel o amgylch cyffyrdd, ar 2% yn unig o’r tir.
3. Nid yw’n fwriadol bob amser: Mae rhywfaint o ‘daflu sbwriel damweiniol neu daclus’ pan fydd pobl yn parcio e.e., gwynt yn taflu deunydd pecynnu o ddrysau ceir, neu finiau’n gorlifo.
4. I rai pobl, mae ceir taclus yn bwysicach nag ochrau ffyrdd taclus. Dangosodd ymchwil ‘Big Boys Don’t Litter’ Hubbub fod rhai dynion ifanc yn taflu pecynnau bwyd a diod i gadw eu ceir yn daclus.
Nod Ochrau Ffyrdd Taclus yw tynnu sylw at sbwriel ar ochr y ffordd.
Os ydych wedi bod allan yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr neu Fro Morgannwg dros yr wythnosau diwethaf, efallai eich bod eisoes wedi gweld ein negeseuon awyr agored. Mae biniau sy’n hawdd i geir eu defnyddio hefyd yn cael eu gosod mewn parc manwerthu yng Nghaerdydd.
Byddwn yn rhoi’r gair ar led ar y cyfryngau cymdeithasol a byddwn yn cynnal digwyddiadau glanhau yng Nghaerdydd dros wyliau’r haf.
Ar y ffordd yr haf hwn? Cofiwch bacio bag ychwanegol ef mwyn i chi allu cadw eich sbwriel nes eich bod yn ei daflu i’r bin. Rydym i gyd eisiau #OchrauFfyrddTaclus.
29/04/2024
12/03/2024
30/10/2023
13/03/2023