A A A

Tipio Anghyfreithlon? ‘Nid Ar Fy Stryd I’

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymuno â awdurdodau lleol a cymdeithasau tai ar draws Cymru i lansio ‘Nid ar fy stryd i’, ymgyrch newydd i fynd i’r afael â Thipio anghyfreithlon.

Gyda’i ymgyrch gwastraff newydd, gobaith Cadwch Gymru’n Daclus yw cyrraedd cymunedau ar draws Cymru, gan eu haddysgu am ymddygiad gwastraff cywir, opsiynau ar gyfer symud eitemau cartref a galw ar denantiaid i wneud y peth iawn.

Cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau ar draws Cymru eleni, i denantiaid ddysgu sgiliau newydd, arbed arian a gwaredu eu heitemau diangen yn gywir.

“Mae tipio anghyfreithlon wedi bod ar gynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda’r amharu a achoswyd gan y pandemig yn cael effaith amlwg ar lendid ein cymunedau. Mae eitemau sy’n cael eu gadael ar y stryd yn costio miliynau i awdurdodau lleol eu symud, ac – yn syml – mae’n edrych yn ofnadwy. Nod ein hymgyrch newydd yw annog cymunedau ar draws Cymru i gadw eu hardaloedd lleol yn rhydd rhag gwastraff cartref a dweud ‘Nid ar fy Stryd i’. Diolch byth, mae uwchgylchu a thrwsio eitemau yn fwy poblogaidd nag erioed. Dyma pam yr ydym yn llawn cyffro i fod yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i helpu cymunedau i wneud eu rhan, trwy ein digwyddiadau ymgysylltu cymunedau, ac yn ein caffis trwsio dros dro. Mae gwaredu eich eitemau cartref diangen yn haws nag ydych yn ei feddwl, ac – yn bwysig iawn – mae’n rhatach na dirwy. I ganfod mwy, chwiliwch casgliad gwastraff mawr heddiw.”

Owen Derbyshire
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Cynhelir yr ymgyrch cenedlaethol fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a chynghorau i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Chwiliwch casgliad gwastraff mawr i ganfod ffyrdd fforddiadwy o waredu eich eitemau diangen.

Haws nag ydych yn ei feddwl, rhatach na dirwy.

Gwiriwch bob tro fod ganddynt drwydded cludo gwastraff gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk/GwirioGwastraff

Erthyglau cysylltiedig

Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy
Angen Cynllun Dychwelyd Ernes nawr yn fwy nag erioed

12/03/2024

Darllen mwy
Gwaharddiad ar blastigau untro – beth nesaf?

30/10/2023

Darllen mwy
#OchrauFfyrddTaclus: mynd i’r afael â sbwriel ar ochr y ffordd

20/07/2023

Darllen mwy