A A A

Tipio Anghyfreithlon ‘Ddim yn Olwg Da’

Mae tipio anghyfreithlon yng Nghymru wedi bod ar gynnydd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n cael effaith ddinistriol ar yr amgylchedd a’n cymunedau lleol. Nid yw sbwriel wedi ei adael yn olwg da, ond mae hefyd yn beryglus ac yn ddrud i’w symud.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymuno ag awdurdodau lleol a phrifysgolion ar draws Cymru i lansio ‘Ddim yn olwg da’ ymgyrch cenedlaethol newydd i fynd i’r afael â Thipio anghyfreithlon.

Gyda chostau byw ar gynnydd, mae’n fwy ffasiynol nag erioed i ailgylchu neu drwsio eich eitemau diangen. O gaffis trwsio i gyfnewid dillad, mae Cadwch Gymru’n Daclus a Phrifysgolion ar draws Cymru yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ar gyfer myfyrwyr y Gaeaf hwn er mwyn dysgu sgiliau newydd, arbed arian a gwaredu eu heitemau diangen yn gywir.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus hefyd wedi datblygu cyfres o adnoddau i Brifysgolion eu harddangos o amgylch campysau ac ar-lein i sbarduno myfyrwyr i wneud y peth iawn gyda’u heitemau cartref diangen.

“Mae’n eithaf amlwg bod tipio anghyfreithlon wedi bod ar gynnydd dros y blynyddoedd diweddar, gyda’r pandemig yn gwaethygu’r mater. Nid yw eitemau wedi eu gadael ar ganol y stryd yn olwg da, mae’n costio miliynau i awdurdodau lleol eu symud, ac maent yn cael effaith niweidiol difrifol ar ein cymunedau. Felly, gyda hynny mewn golwg, nod ein hymgyrch newydd yw addysgu ac annog myfyrwyr i gadw eu cymunedau’n edrych yn dda trwy waredu eitemau gwastraff cartref yn gywir. Gall gadael pethau mewn ffordd anghywir ymddangos fel ateb cyflym, ond mae’r gost i gymunedau a’ch amgylchedd lleol yn real iawn. Ac mae gwaredu eich eitemau cartref diangen yn haws nag ydych yn ei feddwl (ac yn rhatach na dirwy!) Gwyddom hefyd fod uwchgylchu yn fwy ffasiynol nag erioed, a dyma pam yr ydym yn llawn cyffro i fod yn gweithio gyda phrifysgolion ar draws Cymru ar bopeth o gaffis trwsio i ganolfannau ailgylchu dros dro y Gaeaf hwn I ganfod sut gallwch chi gymryd rhan, chwiliwch casgliad gwastraff mawr heddiw.”

Owen Derbyshire
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Mae’r ymgyrch cenedlaethol yn cael ei redeg fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a chynghorau i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Chwiliwch casgliad gwastraff mawr i ganfod ffyrdd fforddiadwy o waredu eich eitemau diangen.

Haws nag ydych yn ei feddwl, rhatach na dirwy.

Gwiriwch bob tro fod ganddynt drwydded cludo gwastraff gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk/GwirioGwastraff

Erthyglau cysylltiedig

Gwneud cyfraniad i Cadwch Gymru’n Daclus am ddim gydag easyfundraising!

02/12/2024

Darllen mwy
Datganiad CDE Cadwch Gymru’n Daclus Tachwedd 2024

19/11/2024

Darllen mwy
Ieuenctid yn arwain y galw am weithredu hinsawdd yn COP Ieuenctid Cymru 2024

15/11/2024

Darllen mwy
Parciau Cymru’n cael eu cydnabod fel y ‘gorau o’r goreuon’

14/11/2024

Darllen mwy