Ysgogodd pedair Eco-Sgolion uwchradd o Lanelli sgyrsiau amgylcheddol a gofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog Mark Drakeford mewn digwyddiad yn y Senedd ddiwedd mis Mehefin.
Cafodd Ysgol Coedcae, Ysgol Glan-y-Môr, Ysgol Bryngwyn ac Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd eu gwahodd i ymuno â’r Eco-Uwchgynhadledd gan Lee Waters, Aelod o’r Senedd dros Lanelli.
Rhannodd y disgyblion eu llwyddiannau o ran ysgogi newid amgylcheddol yn yr ysgol. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys datblygu bioamrywiaeth ar dir eu hysgolion, gwahardd offer un-tro yn y ffreutur, a sefydlu siopau cyfnewid dillad ar gyfer gwisg ysgol a ffrogiau prom.
Yn dilyn y cyflwyniadau cafodd y ddisgyblion ddadl fywiog gyda’r Prif Weinidog ar ddyfodol ynni yng Nghymru a’r argyfwng hinsawdd.
Roedd cynrychiolwyr o Coed Cadw a’r addysgwr newid hinsawdd Dr Jennifer Rudd yn bresennol hefyd.
Yn y ddadl ddeinamig a diddorol, heriodd y myfyrwyr aelodau’r Senedd yn ddi-ofn, gan ddefnyddio data gwyddonol ac enghreifftiau Cymreig i ddangos eu safbwyntiau.
Roedd themâu’n ymestyn o ynni niwclear a gwneuthuriad dur i’r diwydiant amaethyddol, ni adawodd y disgyblion unrhyw bwnc heb ei gyffwrdd.
Mae’r cysyniad o gynaliadwyedd yn amlwg yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth wrth i fyfyrwyr archwilio natur gyd-gysylltiedig cynaliadwyedd, gan ymchwilio i’w oblygiadau pellgyrhaeddol ar bobl, lleoedd a’r economi ehangach.
Wedi iddi ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus bron i ddeng mlynedd yn ôl, roedd Bethan Evans-Phillips, Swyddog Eco-Sgolion Sir Gaerfyrddin wedi cwrdd â’r rhan fwyaf o ddisgyblion Llanelli pan oedden nhw’n dal yn yr ysgol gynradd.
Mae angerdd a brwdfrydedd y disgyblion wedi aros gyda nhw wrth iddyn nhw symud ymlaen i’r ysgol uwchradd.
Wrth siarad yn yr uwchgynhadledd, soniodd Bethan am “crych effaith” y newidiadau bach sy’n cael eu rhoi ar waith gan ddisgyblion yn eu hysgolion. Dywedodd hi:
Rwyf bob amser wedi fy syfrdanu gyda gweithredoedd ysbrydoledig yr ysgolion, yr eco-bwyllgorau ac unigolion sy’n dangos penderfyniad i gael dyfodol gwyrddach, gwell. Mae llais y disgybl yn hollbwysig i lwyddiant y rhaglen Eco-Sgolion. Y bobl ifanc hyn sy’n gyrru’r gwaith o nodi targedau, gweithredu a gwneud gwahaniaeth. Bethan Evans-PhillipsSwyddog Eco-Sgolion
Bethan Evans-PhillipsSwyddog Eco-Sgolion
Gan gydnabod difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd, roedd Mark Drakeford wedi cydnabod mai’r genhedlaeth nesaf fyddai’n ysgwyddo baich ei ganlyniadau. Pwysleisiodd rôl hanfodol pobl ifanc wrth ysgogi newid a phwysleisiodd yr angen am gefnogaeth gadarn i rymuso eu hymdrechion.
Gwnaeth y pwynt hwn yn glir i Aelodau eraill o’r Senedd ar 20 Mehefin, pan soniodd am lwyddiant yr Eco-Sgolion yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog. Dywedodd “mai pobl ifanc yw’r eiriolwyr gorau ar gyfer gwneud ysgolion yn ecogyfeillgar.”
Rydyn ni’n cytuno!
Yna cafodd y Prif Weinidog gyfle i siarad â disgyblion Ysgol Gynradd Oak Field yn y Barri. Arweiniodd disgyblion y Prif Weinidog gyda balchder o amgylch eu coedwig a’u gwrychoedd oedd newydd eu plannu gan fyfyrio ar yr angen i ofalu am goed a phwysigrwydd dysgu amgylcheddol.
Dysgodd y Prif Weinidog hyd yn oed am bwysigrwydd gwenyn gan y disgyblion tra’n blasu mêl o’u gwenynen ysgol ymhlith y coed oedd newydd eu plannu.
Gallwch chi gael yr holl newyddion diweddaraf gan Eco-Sgolion drwy ddilyn @EcoSchoolsWales ar Twitter, Facebook ac Instagram.
Gyda gwyliau’r haf ar y gorwel, mae Cylchlythyr diweddaraf Eco-Sgolion Cymru yn edrych yn ôl ar flwyddyn gyffrous.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy
06/03/2023
24/11/2022
01/11/2022
27/10/2022