Will Millard yw Llysgennad Cadwch Gymru’n Daclus!

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr anhygoel Will Millard wedi cytuno i ymuno â ni fel Llysgennad newydd sbon Cadwch Gymru’n Daclus.

Ef fydd un o wynebau gwaith ein helusen yn ystod dathliadau’r 50 mlwyddiant a thu hwnt yma yng Nghymru.

Mae Will yn ddarlledwr medrus, yn gyflwynydd sydd wedi ennill Bafta ac yn arweinydd teithiau gyda gyrfa’n rhychwantu blynyddoedd gyda’r BBC. Gan weithio ar raglenni dogfen fel ‘Hunters of the South Seas’ a ‘Hidden Wales’, mae hefyd wedi camu i mewn i fyd ysgrifennu’n ddiweddar gan gyhoeddi ei lyfr natur cyntaf i blant.

Mae Will yn llawn cyffro ac egni am weithio gyda ni yn y dyfodol, yn hyrwyddo ein gwaith ar draws Cymru ac yn codi ymwybyddiaeth am ddiogelu ein tirweddau naturiol.

“Rwy’n llawn cyffro i fod yn ymuno â thîm Cadwch Gymru’n Daclus fel llysgennad – gan ddathlu carreg filltir o 50 mlwyddiant yn hanes yr elusen. “Mae addysgu eraill am gynaliadwyedd a’r ffordd y gallwn i gyd wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd yn hanfodol, a dyma’r rheswm y mae’r gwaith y mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ei wneud yn agos iawn at fy nghalon. “Trwy ddod at ein gilydd, ein gobaith yw cyrraedd pobl ar draws Cymru a gwireddu ein gweledigaeth ar y cyd am Gymru hardd, y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.”

Will Millard

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu Will fel ein llysgennad. Mae bob amser wedi dangos ymrwymiad eithriadol i gynaliadwyedd ac mae’n angerddol am ddiogelu harddwch naturiol Cymru. Edrychwn ymlaen at weithio gydag ef i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac i’r dyfodol.”

Lesley Jones
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Erthyglau cysylltiedig

Taith allyriadau isel Eco-Sgolion Cymru i Foroco

06/03/2023

Darllen mwy
Cynllun dychwelyd ernes newydd ar ei ffordd

20/01/2023

Darllen mwy
Ysgolion dros Gymru yn dechrau plannu miloedd o goed

16/01/2023

Darllen mwy
Tipio Anghyfreithlon ‘Ddim yn Olwg Da’

01/12/2022

Darllen mwy