A A A

Ydych chi wedi gweld ein cerflun o Snoopy?

Rydyn ni’n cymryd rhan yn nhaith Snoopy, ci mwyaf eiconig y byd, ar ‘A Dog’s Trail with Snoopy’ gan Dog’s Trust i hyrwyddo’r ymgyrch baw cŵn a gwaith ehangach Caru Cymru i gynulleidfa hollol newydd.

Rydyn ni wedi noddi cerflun o Snoopy, o’r enw ‘A Dog’s Day Out’, ar y llwybr celf cyhoeddus ysblennydd rhad ac am ddim sy’n arwain y ffordd ar draws Caerdydd, Caerffili a Phorthcawl rhwng dydd Gwener 8 Ebrill a dydd Sul 5 Mehefin 2022.

Gellir dod o hyd i’n cerflun o Snoopy ger caffi Summerhouse ym mharc Bute, lle rydyn ni’n cynnal digwyddiad codi sbwriel ‘Paws and Pick’ sy’n addas i gŵn ddydd Sadwrn 9 Ebrill, o 10am tan 12pm. Ar y diwrnod, byddwn yn darparu danteithion cŵn, bagiau baw cŵn a thatŵs dros dro o olion pawennau. Bydd hefyd ddigonedd o gyfleoedd i dynnu lluniau gyda’n bwrdd lluniau cŵn a’n fframiau hunlun (a’n cerflun anferth o Snoopy wrth gwrs!) i’w rhannu ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Os ydych chi’n ymweld â Pharc Bute gyda’ch ffrindiau pedair coes, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â’n cerflun o Snoopy, a thynnwch lun ohono a’n tagio ni ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnodau #BagItBinIt #CaruCymru #ADogsTrail.

Trwy noddi cerflun o Snoopy, rydyn ni am annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a gadael olion pawennau yn unig pan fyddant yn crwydro gyda’u hanifeiliaid anwes.

Mae ein cerflun o Snoopy wedi’i ddylunio gan y darlunydd hyfryd o Gaerdydd, Emily Hilditch, ac mae’n cynnwys traethau sy’n croesawu cŵn, yr afon Taf a’i llwybrau, a Phont y Mileniwm sy’n arwain at un o’r nifer o barciau sydd yng Nghaerdydd. I ddathlu mannau gwyrdd amrywiol Caerdydd, bydd llawer o wahanol gŵn yn mwynhau eu diwrnod gyda’u perchnogion, yn nofio, yn rhedeg ar ôl peli, yn tyllu ac yn mwynhau’r bywyd gwyllt lleol yn y ddinas ac o’i chwmpas.

“Mae noddi cerflun o Snoopy fel rhan o ‘A Dog’s Day Out’ gan Dog’s Trust yn gyfle gwych i gysylltu Cadwch Cymru’n Daclus a’n hymgyrch baw cŵn â digwyddiad proffil uchel a hynod boblogaidd. Trwy ein nawdd i gerflun Snoopy yn ‘A Dog’s Day Out’, rydyn ni’n gobeithio codi ymwybyddiaeth o berchnogaeth cŵn cyfrifol i gynulleidfa hollol newydd. Mae dyluniad Emily wedi’i ysbrydoli gan leoedd gwych i fynd â’ch ci am dro yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, ac mae hyd yn oed yn cynnwys perchennog ci yn cario bag baw ci. Rydyn ni’n falch iawn o wneud ein rhan gydag ymgyrch Snoopy, ci mwyaf eiconig yn y byd, ac rydyn ni’n annog pob perchennog cŵn sy’n cymryd rhan i adael olion pawennau yn unig.

Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus

Erthyglau cysylltiedig

Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy
Angen Cynllun Dychwelyd Ernes nawr yn fwy nag erioed

12/03/2024

Darllen mwy
Gwaharddiad ar blastigau untro – beth nesaf?

30/10/2023

Darllen mwy