Gyda Gwanwyn Glân Cymru rownd y gornel, rydym wedi ymuno â WalesOnline a dau Eco-Ysgol anhygoel i godi ymwybyddiaeth o faterion sbwriel.
Fe wnaethom siarad â 40 o ddisgyblion o Ysgol Gynradd y Graig ym Merthur Tudful ac Ysgol Gynradd Croes Onnen yn Sir Fynwy i weld faint roeddent yn ei wybod am sbwriel a gofalu am yr amgylchedd. Fe wnaethom gynnwys popeth o boteli diodydd a chewynnau i groen banana a gwm cnoi!
Ydych chi’n credu y gallwch faeddu eu sgorau nhw? Ewch i WalesOnline i brofi eich gwybodaeth…
Cwblhewch y cwis
Nod y cwis yw ysbrydoli #ArwyrSbwriel ar hyd a lled Cymru i ymuno i gasglu cymaint o sbwriel â phosibl yn ystod Gwanwyn Glân Cymru 2022 (25 Mawrth i 10 Ebrill).
Mae cymryd rhan yn hawdd. Ewch i adran Gwanwyn Glân Cymru o’n gwefan a llenwch y ffurflen fer. Mae llawer o adnoddau i’ch helpu i gynllunio a hyrwyddo eich digwyddiad, a chyda’n rhwydwaith cynyddol o Hybiau Codi Sbwriel Caru Cymru, mae’n haws nag erioed i gael gafael ar y cyfarpar cywir.
Wrth gwrs, mae codi sbwriel o fudd i fwy na’r amgylchedd yn unig. Gall fod yn weithgaredd hwyliog a boddhaus hefyd i chi, eich teulu, ffrindiau neu gydweithwyr. Peidiwch â chymryd ein gair ni – mae Jules O’Shea o Sir Gaerfyrddin yn glanhau ei hardal leol gyda’u theulu yn rheolaidd.
Mae codi sbwriel fel teulu wedi dangos effaith y pethau sydd yn cael eu taflu i ffwrdd neu eu gollwng i’n plant…Mae mynd allan i’r awyr agored a gwneud rhywbeth mor gadarnhaol wedi bod o gymorth mawr i’n lles meddwl hefyd, yn arbennig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae Isaac, sydd yn 9 oed, wrth ei fodd gyda’r ffaith ein bod yn canfod pethau anhygoel tra’n glanhau hefyd. Jules O’Shea Gwirfoddolwr
Jules O’Shea Gwirfoddolwr
Cofiwch, gall un bag wneud gwahaniaeth mawr.
Gwnewch addewid i gymryd rhan
05/02/2025
08/10/2024
11/07/2023
06/03/2023