A A A

Ymgyrch Trysorwch Eich Afon yn chwilio am recriwtiaid newydd

Ahoi gyfeillion! Rydym yn rhan o’r ymgyrch bycaniraidd i atal sbwriel, Trysorwch Eich Afon, ac yn chwilio am recriwtiaid newydd i ymuno â’n criw.

Mae ein hafonydd yn ganolog i’n cymunedau ac yn gynefin gwerthfawr i ystod enfawr o anifeiliaid a bodau dynol fel ei gilydd.  Rydym yn gweithio gyda Hubbub, Yr Ymddiriedolaeth Afonydd, a phartneriaid eraill ar draws y DU i helpu i gadw ein hafonydd yn daclus ac i atal sbwriel rhag cyrraedd y saith fôr.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn recriwtio aelodau o’r tîm i helpu gyda gweithgareddau ym Mae Caerdydd.  Bob blwyddyn, mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn casglu 500 tunnell o sbwriel ar gyfartaledd ac amcangyfrifir bod 90% yn mynd i lawr Afon Taf.  Ydych chi eisiau ein helpu i wneud gwahaniaeth?

O fis Mai hyd at fis Tachwedd, byddwn yn cynnal digwyddiadau sydd yn addas i unrhyw un ymuno ynddynt.  Dyma ragflas o’r hyn y gallech gymryd rhan ynddo:

  • Ymunwch â thaith pysgota am blastig – dewch ar fwrdd cwch wedi ei wneud o 99% o blastig wedi ei ailgylchu a’n helpu i bysgota am sbwriel a thrysorau sydd wedi cael eu taflu.
  • Cymerwch ran mewn helfa drysor neu ymgyrch codi sbwriel â thema – gadewch eich marc a chanfod y gwahaniaeth y gallech ei wneud ar antur codi sbwriel.
  • Gallwch fod yn gapten ar ein llongau ysbrydion môr-ladron (bwyta sbwriel) – hwyliwch i ffwrdd tra’n cadw’n sych. Bydd ein cychod clirio sbwriel a reolir o bell yn clirio unrhyw beth sydd yn llechu yn y dŵr a does dim angen unrhyw brofiad hwylio blaenorol.
  • Pleidleisiwch gyda’ch sbwriel mewn biniau ar thema môr-ladron – byddwn yn rhoi biniau ar thema môr-ladron ar hyd a lled eich dinas chi.

Barod i ddechrau?  Ebostwch gareth.davies@keepwalestidy.cymru a dewch ar fwrdd

Awyddus i wneud gwahaniaeth yn y cyfamser?  Ewch i wefan Trysorwch Eich Afon i ganfod mwy am yr hyn y gallwch ei wneud i atal sbwriel rhag cyraedd y saith fôr.

Erthyglau cysylltiedig

Owen Derbyshire yn ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus

27/10/2022

Darllen mwy
Ymunwch â ras gyfnewid fwya’r byd ar gyfer newid hinsawdd!

26/09/2022

Darllen mwy
Bydd rhai newidiadau i ddigwyddiadau yn ystod ymgyrch Glanhau Moroedd Cymru

13/09/2022

Darllen mwy
Dathlu 50 mlynedd o Cadwch Gymru’n Daclus

03/08/2022

Darllen mwy