Mae’r Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion wedi dod i ben erbyn hyn. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r holl ysgolion ymroddedig a ddaeth ynghyd i wneud gwahaniaeth mawr ledled y wlad.
Mae dros 200 o ysgolion wedi cofrestru, gyda dosbarthiadau ar hyd a lled Cymru yn cymryd rhan mewn digwyddiadau glanhau ym mhob cwr o’r wlad.
Ymunodd dros 20 o Ysgolion Cymru hefyd â gwers fyw Litter and Waste a gynhelir gan Eco-Ysgolion yr Alban ar 21 Mawrth. Mae llawer o ysgolion wedi cysylltu, gan rannu faint o’r wers wnaeth iddynt feddwl am y sefyllfa o ran sbwriel a gwastraff.
Hefyd, ymunodd 170 o ddosbarthiadau â Keep Britain Tidy a Keep Scotland Beautiful ar gyfer gwasanaeth byw lle bu Sarah Roberts, yr eco-newyddiadurwr a’r awdur, yn darllen ei llyfr newydd, Somebody Crunched Colin.
“Fe wnaethon ni fwynhau’r gwasanaeth rhithiol yn fawr: sesiwn stori a holi ac ateb gydag Emily a Sarah Roberts y bore yma. Edrychwn ymlaen at ddechrau ein glanhau y prynhawn yma” Ysgol Pengam o Coed Duon
Ysgol Pengam o Coed Duon
Yn ôl arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Keep Britain Tidy, amcangyfrifir bod 60% o blant a phobl ifanc yn teimlo’n hapusach wrth weithredu er lles materion ecolegol.
Mae gweld ysgolion yn dod at ei gilydd ledled Cymru wedi bod yn galonogol dros ben, gyda phlant yn mwynhau’r cyfle i dorchi llewys.
“Ers cwblhau’r sesiwn casglu sbwriel mae fy nosbarth wedi dechrau ymgyrch i leihau’r sbwriel sigarennau sy’n cael ei ollwng ar y strydoedd o amgylch ein ysgol. Maent yn fwy ymwybodol o'r sbwriel y maent yn ei weld a mae hwy yn aml yn gwneud sylwadau amdano pan fyddwn ar y bws i wersi nofio. Mae wedi helpu i godi eu hymwybyddiaeth o’r problemau y gall sbwriel eu hachosi ond nid yn unig hynny, mae wedi eu grymuso i wneud newidiadau cadarnhaol i helpu’r amgylchedd ac i wella’r ardal y maent yn byw ynddi.” Siân TaylorCydlynydd Eco-Sgolion yn Ysgol Gymunedol Pennar
Siân TaylorCydlynydd Eco-Sgolion yn Ysgol Gymunedol Pennar
Diolch yn fawr iawn i’r holl ysgolion sy’n defnyddio EpiCollect5 i gofnodi eu gweithgareddau. Peidiwch ag anghofio y gallwch gael weld eich data eich hun ar unrhyw adeg. Mae’n ffordd wych o ddangos i bobl y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud yn y gymuned. Darganfod mwy ar adrodd am eich cynnydd: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/rhannwch-eich-canfyddiadau/
02/12/2024
19/11/2024
15/11/2024
14/11/2024