Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi lansio ymgyrch lleol gyda’r nod o newid ymddygiad o ran sbwriel yn ymwneud â smygu. Cynhelir yr ymgyrch ym Mlaenau Gwent a bydd yn cynnig mentrau gwahanol i smygwyr waredu eu gwastraff yn gyfrifol ynghyd ag addysgu’r cyhoedd trwy negeseuon.
Er bod bonion sigaréts yn fach, yn ôl y gyfraith sbwriel ydynt o hyd. Mae eu maint yn eu gwneud yn anodd ac yn gostus i’w tacluso, a chânt eu cludo’n hawdd mewn dyfrffyrdd a’r arfordir trwy wynt a dŵr.
Bydd biniau smygu newydd yn cael eu gosod yn y lleoliadau canlynol: Glynebwy, Abertyleri a Thredegar a byddant yn amrywio o ‘finiau micro’, biniau bach ynghlwm wrth bolion lampau i finiau fel biniau pleidleisio fydd yn annog y cyhoedd i ymgysylltu. Bydd busnesau lleol hefyd yn helpu i hyrwyddo’r ymgyrch trwy ddarparu blychau llwch poced neu gludadwy. Trwy gydol yr ymgyrch, defnyddir negeseuon gwahanol i helpu i addysgu smygwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol am effeithiau sbwriel yn ymwneud â smygu.
Bydd monitro lefel sbwriel yn ymwneud â smygu, ynghyd ag arolygu amgyffrediad yn y tri lleoliad, yn helpu i nodi effaith yr ymgyrch, ynghyd â chodi ymwybyddiaeth o sbwriel yn ymwneud â smygu.
Rydym eisiau chwalu’r mythau a’r camdybiaethau yn ymwneud â gwaredu bonion sigaréts. Er gwaethaf eu maint, mae bonion sigaréts yn dal yn cyfrif fel sbwriel! Rydym eisiau i bawb ddeall nad blychau llwch yw ein palmentydd a’n draeniau a edrychwn ymlaen at weld y canlyniadau ym Mlaenau Gwent. Jemma BereRheolwr Polisi ac Ymchwil yn Cadwch Gymru’n Daclus
Jemma BereRheolwr Polisi ac Ymchwil yn Cadwch Gymru’n Daclus
I ganfod mwy am yr ymgyrch, dilynwch yr hashnod #BonionTaclus neu #TidyButts ar y cyfryngau cymdeithasol.
29/04/2024
12/03/2024
30/10/2023
20/07/2023