Fis Ebrill eleni, fel rhan o Gwanwyn Glân Cymru, rydym wedi ymuno a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol i fynd i’r afael a sbwriel ar y traeth ym Mae Cinmel.
Yn ystod ymgyrch blynyddol Glanhau Traethau Prydain Fawr y Gymdeithas Cadwraeth Forol y llynedd, cymerodd 6,176 o wirfoddolwyr ran gan gasglu 130 o fagiau o sbwriel ar draws traethau yng Nghymru.
Ymunwch a ni ar Ebrill 3 i fynd ar draws y traeth i gasglu a chofnodi’r sbwriel y byddwch yn ei ganfod gan ddefnyddio arolwg sbwriel y Gymdeithas Cadwraeth Forol.
“Mae’r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn falch o fod yn gweithio ar y cyd â Cadwch Gymru’n Daclus i gyflwyno’r digwyddiad blaenllaw hwn ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru 2022. O un flwyddyn i’r llall, rydym yn parhau i ganfod a chofnodi cannoedd o eitemau o sbwriel ar ein traethau sydd yn fygythiad i bobl, bywyd gwyllt a’n cefnfor. Bydd ein digwyddiad ym Mae Cinmel yn gweld sefydliadau a chymunedau yn dod ynghyd i gadw ein hamgylchedd hardd yn lân, yn ddiogel ac yn iach. Gobeithio gallwch ymuno â ni!” Ffion MitchellGwirfoddolwr a Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer y Gymdeithas Cadwraeth Forol (Cymru)
Ffion MitchellGwirfoddolwr a Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer y Gymdeithas Cadwraeth Forol (Cymru)
Bydd y niferoedd ar gyfer y digwyddiad yn gyfyngedig felly cofrestrwch trwy wefan y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Darperir yr holl gyfarpar codi sbwriel ar gyfer y gwirfoddolwyr.
Mae’r ddolen i gofrestru yma
Credyd Llûn: MCS / Billy Barraclough
19/02/2025
24/01/2025
18/10/2024
29/04/2024