Fel mynydd uchaf yng Nghymru, mae’r Wyddfa yn denu llawer o dwristiaid drwy gydol misoedd y Gwanwyn a’r Haf. Gyda hyn, daw cynnydd mawr mewn sbwriel a gwastraff yn ystod y cyfnod poblogaidd hwn.
Dewch i’n helpu ni i fynd i’r afael â glanhau yr Wyddfa ar Ebrill 3. Rydym wedi partner ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i daclo y copa ac i adael ein golygfeydd yn lân y Gwanwyn hwn.
Bydd yr holl offer yn cael eu darparu ar eich cyfer. Y cyfan sydd angen i chi ddod gyda chi yw esgidiau call, dillad cynnes, menig a gwên fawr.
“Er y bydd cynllun gwirfoddoli Caru Eryri yn dychwelyd yn fuan, mae ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru yn gyfle gwych i fynd allan i’r mynyddoedd i lanhau unrhyw sbwriel cyn i’r tymor prysur ddechrau, gan fod sbwriel yn denu sbwriel! Mae’n bleser gennym gymryd rhan yn yr ymgyrch a chefnogi gwaith anhygoel Cadwch Gymru’n Daclus. Diolch o galon i bawb sydd yn helpu i ddiogelu Yr Wyddfa, gan gadw’r amgylchedd yn ddiogel ac yn eithriadol i bawb ei fwynhau. Cofiwch, mae’n rhaid i’r hyn sy’n mynd i fyny ddod i lawr”. Etta TrumperSwyddog Llesiant a Gwirfoddoli Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Etta TrumperSwyddog Llesiant a Gwirfoddoli Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Mae’r niferoedd yn gyfyngedig felly cofiwch gofrestru trwy wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
19/02/2025
24/01/2025
18/10/2024
29/04/2024