Gall rhedwyr (a beicwyr) gofrestru nawr i ymuno â ras gyfnewid yr hinsawdd arbennig Running Out of Time.
Beth yw Running Out of Time?
Running Out of Time fydd y ras gyfnewid ddi-stop hiraf a ymgeisiwyd erioed gyda rhedwyr yn trosglwyddo baton sy’n cynnwys neges bwerus iawn am newid hinsawdd gan bobl ifanc i’r rhai fydd yn gwneud penderfyniadau yn COP27.
Wedi’i threfnu gan The World Relay Ltd, mae llwybr y ras gyfnewid wedi’i rhannu’n 732 cyfnod o ryw 10 cilomedr yr un. Cynhelir y ras gyfnewid ddydd a nos am 38 o ddiwrnodau a bydd yn teithio i 18 o wledydd: o Glasgow (a gynhaliodd COP26) ar 30 Medi i Sharm el-Sheikh yn yr Aifft (sy’n cynnal COP27) ar 6 Tachwedd.
Bydd yn teithio trwy Gymru ar 5-6 Hydref.
Rydym yn falch iawn o gael cefnogi’r ras gyfnewid, a byddwn yn gweithio gydag ysgolion, busnesau a gwirfoddolwyr i arddangos y gweithredu ar newid hinsawdd sy’n digwydd ledled y wlad.
Mae’n her aruthrol, sy’n galw am ymdrech aruthrol, er mwyn cyflawni newid aruthrol. A’r newyddion da yw y gallwch chi ymuno yn yr her hefyd.
Pwy all gymryd rhan?
Gall unrhyw un dros 18 oed gofrestru i gymryd rhan yn y ras gyfnewid. Bydd angen iddynt allu cynnal cyflymder cyfartalog o 6 munud 15 eiliad fesul cilomedr / 10 munud fesul milltir ar gyfer hyd y cyfnod.
Beth yw’r gost?
Y gost o gofrestru ar gyfer y ras gyfnewid yw £15. Gwneir rhodd o 30% o leiaf ar gyfer pob cofrestriad i bartneriaid elusennol Running Out of Time, FEE (Y Sefydliad Addysg Amgylcheddol) a Carbon Copy.
I weld yr holl gamau ac i gofrestru, ewch i wefan Running Out of Time: running-out-of-time.com
Byddwch yn arwr, cariwch y baton.
Parhewch i ddarllen...

Rhoi ffocws: diweddariad gan ein Tîm Polisi ac Ymchwil
Darllen rhagor
Datgelu ymgeiswyr terfynol Gwobrau Cymru Daclus 2026
Darllen rhagor
Ffigurau newydd yn datgelu graddfa sbwriel yr haf ledled Cymru
Darllen rhagor








