Rydym yn llawn cyffro i fod yn cymryd rhan yn Ras 5K Siôn Corn Clwyd eleni ar 5 Rhagfyr, ac rydym yn chwilio am ddarpar Sionau Corn i ymuno â’n tîm!
Mae gennym 20 o docynnau oedolion a phum tocyn plentyn AM DDIM.
Mae’r llwybr 5,000m yn mynd â chi i fyny Moel Famau ar hyd Bryniau Clwyd. Mae Ras Siôn Corn yn ddigwyddiad teuluol – gallwch gerdded, loncian neu redeg ac anogir anifeiliaid anwes i ymuno yn yr hwyl hefyd!
Byddwn yn rhoi pecyn codi sbwriel i bob Siôn Corn er mwyn i chi allu ‘plogio’ (codi sbwriel tra’n loncian) a helpu i gadw’r ardal hardd hon o’r wlad yn lân ac yn ddiogel.
Bydd rhedwyr yn derbyn gwisg Siôn Corn ar y diwrnod, medal ar ôl cwblhau’r ras a’r holl offer codi sbwriel angenrheidiol wrth gyrraedd.
Mae’n rhaid i bawb sydd yn cymryd rhan fewngofnodi ar y diwrnod ym Maes Parcio Pen Barras, Moel Famau o 9am a bydd y ras yn dechrau am 10am.
Cofrestrwch eich diddordeb – https://keepwalestidy.cymru/cy/digwyddiadau/ras-5k-sion-corn-clwyd-2021/
18/10/2024
29/04/2024
12/03/2024
30/10/2023