A A A

Yn galw ar bawb sydd yn caru cŵn ym Merthyr

Gwahoddir preswylwyr Merthyr Tudful (a’u ffrindiau blewog!) i ymuno â staff y cyngor a swyddogion Cadwch Gymru’n Daclus mewn digwyddiad ymgysylltu ymgyrch baw cŵn rhwng 9.00am a 12.00pm ar ddydd Llun 14 Mawrth ym Mharc y Castell. Bydd danteithion cŵn, bagiau baw ci a thatŵs dros dro o olion pawennau’n cael eu rhoi am ddim i gerddwyr cŵn lleol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes fel rhan o ymgyrch cenedlaethol gan Cadwch Gymru’n Daclus.

Er yr amcangyfrifir bod naw allan o ddeg o berchnogion cŵn yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, mae baw ci yn dal yn broblem mewn cymdogaethau ar draws y wlad. Nod ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus yw codi ymwybyddiaeth o’r peryglon iechyd sydd yn gysylltiedig â baw cŵn; nid yn unig i bobl ond hefyd i anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes eraill.

Gall baw ci sydd wedi ei adael ar ôl gario bacteria niweidiol all barhau yn y pridd ymhell ar ôl iddo bydru.

Mae’r ymgyrch cenedlaethol yn cael ei gynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i gyflwyno’r neges bwysig yma. Rydym wedi gweld cynnydd mewn baw cŵn dros y misoedd diweddar, felly mae’r ymgyrch hwn i atgoffa lleiafrif bach o berchnogion cŵn anghyfrifol i lanhau ar ôl eu ffrindiau blewog, a’n helpu ni i gadw ein hamgylchedd yn lân ac yn ddiogel i bawb.

Cynghorydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Michelle Jones
Aelod o’r Cabinet ar gyfer Gwasanaethau’r Gymdogaeth

Rydym yn llawn cyffro yn lansio’r ymgyrch pwysig hwn gyda’n partneriaid mewn awdurdodau lleol. Fel cenedl sydd yn caru cŵn, dylem i gyd fod yn ymwybodol nad llanast amhleserus yn unig yw baw ci, gall fod yn beryglus. Rydym yn annog y lleiafrif bach o berchnogion cŵn anghyfrifol i wneud y peth iawn. Trwy beidio â chodi baw eich ci, gallech fod yn peryglu pobl, anifeiliaid fferm, a’n hanifeiliaid anwes annwyl. Bagiwch, biniwch a gadael olion pawen yn unig pan fyddwch allan.

Lesley Jones
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Mae pobl yn Merthyr ac ar draws Cymru yn cael eu hannog i ymuno â’r ymgyrch newydd. Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus i ganfod mwy a lawrlwytho deunyddiau am ddim: https://keepwalestidy.cymru/cy/blog/gwnewch-y-peth-iawn-a-gadael-olion-pawennau-yn-unig/

Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Erthyglau cysylltiedig

Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy
Angen Cynllun Dychwelyd Ernes nawr yn fwy nag erioed

12/03/2024

Darllen mwy
Gwaharddiad ar blastigau untro – beth nesaf?

30/10/2023

Darllen mwy