A A A

Ieuenctid yn arwain y galw am weithredu hinsawdd yn COP Ieuenctid Cymru 2024

Daeth dros 320 o ddisgyblion ysgol i COP Ieuenctid Cymru eleni.

Wedi’i drefnu gan Maint Cymru a Cadwch Gymru’n Daclus, tynnodd y digwyddiad sylw at sut y gall cenhedloedd bach – fel Cymru – wneud cyfraniad enfawr tuag at y frwydr am ddyfodol cynaliadwy.

Cafodd mynychwyr gyfle i ddysgu gan arweinwyr brodorol o Genedl Wampís yn yr Amazon Periw, a rannodd eu profiadau a’u mewnwelediadau o ddiogelu un o ecosystemau mwyaf hanfodol y byd.

Yn ogystal â’r persbectif byd-eang hwn, roedd COP Ieuenctid Cymru yn cynnwys cyfres o weithdai a thrafodaethau difyr gydag arbenigwyr o Eco-Sgolion Cymru. Cafodd pobl ifanc gyfle i archwilio materion hinsawdd dybryd, gan gynnwys effaith dewisiadau bwyd, pwysigrwydd lleihau gwastraff bwyd gan flaenoriaethu cynaliadwyedd.

Mae COP Ieuenctid Cymru yn ddigwyddiad hanfodol ar gyfer meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr amgylcheddol. Trwy ddarparu llwyfan i bobl ifanc gysylltu ag arweinwyr brodorol, cydweithio â chyfoedion, a datblygu eu sgiliau, rydym yn eu grymuso i ysgogi newid cadarnhaol yn eu cymunedau a’r tu hwnt. Efallai ein bod ni'n genedl fach, ond mae gennym ni lais mawr a phobl ifanc anhygoel. Gallwn wneud gwahaniaeth.

Owen Derbyshire
Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus

Rhannodd myfyrwyr o Ysgol Gyfun Sir Fynwy, sydd wedi bod yn gweithio i ddylunio bwydlen ysgol ddi-ddatgoedwigo, eu taith ysbrydoledig. Esboniodd ddau ddisgybl sut y cawsant eu hysbrydoli i weithredu er budd yr amgylchedd ac roeddent yn cydnabod yr effaith enfawr y mae dewisiadau bwyd yn ei chael ar y blaned. Mae’r korma ffacbys wedi’i brofi’n boblogaidd ar eu bwydlen ginio ac yn cael ei fwynhau gan staff a myfyrwyr bob wythnos. Dangosodd eu hymrwymiad i ddewisiadau bwyd cynaliadwy sut y gall gweithredu lleol gyfrannu at ymdrechion byd-eang i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu i gyd-fynd ag Wythnos Hinsawdd Cymru a COP29 y Cenhedloedd Unedig yn Azerbaijan (11-22 Tachwedd). Roedd Aelodau’r Senedd yn cefnogi’r digwyddiadau. Yng Nghaerdydd, daeth y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies yn annerch y bobl ifanc. Tynnodd sylw at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddyfodol cynaliadwy ac  fe wnaeth annog pobl ifanc i barhau â’u hymdrechion. Daeth Rhun ap Iorwerth i Wrecsam hefyd a gyflwynodd araith rymusol ac atebodd gwestiynau heriol gan y disgyblion.

Ydych chi’n awyddus i ysbrydoli eich myfyrwyr? Edrychwch ar ein digwyddiadau Eco-Sgolion

Erthyglau cysylltiedig

Enwebiadau Gwobrau Cymru Daclus 2025 ar agor!

06/06/2025

Darllen mwy
Dros 2,000 o erddi wedi eu trawsnewid. Mwy o becynnau i’w rhoi i ffwrdd!

02/05/2025

Darllen mwy
Menter ailgylchu cwpanau papur Deallusrwydd Artiffisial cynta’r byd yn cael ei lansio yng Nghaerdydd

22/04/2025

Darllen mwy
Gwneud cyfraniad i Cadwch Gymru’n Daclus am ddim gydag easyfundraising!

02/12/2024

Darllen mwy