A A A

Ysbrydoli busnesau i leihau ei gwastraff

Mae Cadwch Gymru’n Daclus eisiau datblygu rhwydwaith o fusnesau ar draws Cymru sydd wedi ymrwymo i fudiad Caru Cymru a dathlu’r camau cadarnhaol y maent yn eu cymryd i ddileu sbwriel a gwastraff.

Mae eu hymgyrch newydd yn annog busnesau a sefydliadau i wneud addewid i ymrwymo i’r pedair elfen:  Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu a Thrwsio.

Un o’r busnesau cyntaf yng Nghymru i wneud addewid i gefnog yw PLANED, sefydliad datblygu sydd yn cael ei arwain gan y gymuned yn nhref farchnad Arberth yn Sir Benfro. Rhoddodd Iwan Thomas, y Prif Weithredwr, arferion gwyrdd ac arloesol ar waith yn gyflym pan ddechreuodd ar ei waith fel Prif Swyddog Gweithredol yn 2019.

Rhai o’r ffyrdd y mae PLANED wedi dangos eu hymrwymiad i gyflawni dim gwastraff yw trwy ddod yn fusnes di-bapur, cael gwared ar finiau swyddfa unigol i hybu ailgylchu go iawn, darparu bin ailgylchu plastig a chardfwrdd, defnyddio synwyryddion golau ynni effeithlon ym mhob swyddfa a thŷ bach, gosod paneli solar ar adeiladau allanol, darparu bin compostio bwyd, a newid i foiler dŵr ynni effeithlon yn y gegin. Mae pob cyflogai newydd hefyd yn cael briff am leihau gwastraff a’r disgwyliadau o ran yr hyn y mae angen iddynt ei wneud wrth weithio o’r swyddfa.

O ganlyniad i waith hyrwyddo Cadwch Gymru’n Daclus i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau eraill, mae PLANED wedi ymddangos ar raglen gylchgrawn S4C – Prynhawn Da i amlygu pa mor effeithlon y maent erbyn hyn ac i ysbrydoli busnesau eraill i wneud yr un peth.

Mae’r Penwythnos Cwrs Hir wedi bod yn gweithio’n ddiflino dros y 10 mlynedd diwethaf i leihau eu hôl troed carbon ac annog eu hathletwyr a’u gwylwyr i wneud yr un peth. Mae’r ymgyrch “Gadael Dim Olion” wedi bod yn llwyddiannus iawn ar draws digwyddiadau rhanbarthol, ond eto mae maint a graddfa Penwythnos Cwrs Hir Cymru, sydd yn denu dros 10,000 o athletwyr a 30,000 o wylwyr, yn ei wneud yn her anodd. Mae Penwythnos Cwrs Hir Cymru wedi gofyn am gymorth Simon Preddy, Rheolwr Rhanbarthol i Cadwch Gymru’n Daclus a’i dîm arbenigol nid yn unig i leihau gwastraff yn y digwyddiad, ond i addysgu’r holl fynychwyr a’r boblogaeth leol am y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud ar draws Cymru.

Oliver Duckett, Rheolwr Perthynas Fyd-eang: “Fe wnaeth Simon a’i dîm waith anhygoel yn ystod Penwythnos Cwrs Hir Cymru eleni ac ni allwn ddiolch digon iddynt am eu cefnogaeth. Cafwyd presenoldeb cryf ar y traeth ar y nos Wener wnaeth annog aelodau’r cyhoedd i gynorthwyo gyda’r gwaith o lanhau, gan arwain at lanhau cyflymach a chyflawni mwy o dargedau ailgylchu. Roedd cael stondin Cadwch Gymru’n Daclus yn yr arddangosfa yn ychwanegiad sylweddol i’n digwyddiad gan roi’r amlygrwydd mwyaf posibl iddyn nhw a’r negeseuon am y gwaith gwych y maent yn ei wneud. Edrychaf ymlaen at ddatblygu’r berthynas hon am flynyddoedd i ddod.”

Esboniodd James Thompson, Rheolwr Ymwybyddiaeth a Gorfodaeth Gwastraff Cyngor Sir Powys fod eu Gwasanaethau Arlwyo ac Ailgylchu Masnachol wedi rhoi newidiadau ar waith dros y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd James “Mae ein holl wastraff bwyd masnachol yn cael ei anfon ar gyfer treuliad anaerobig i wneud trydan gwyrdd a gwrtaith, rydym hefyd yn defnyddio poteli dŵr a hambyrddau bwyd amldro, ac mae ffynhonnau dŵr wedi eu cysylltu â’r prif gyflenwad i leihau’r defnydd o blastigau untro. Mae’r adran Arlwyo hefyd yn defnyddio boiler Biomas sydd nid yn unig yn cyflenwi ynni, ond mae hefyd yn helpu i waredu pren a gwastraff deunyddiau eraill. Gall amnewid system wresogi glo neu drydan gyda boiler Biomas helpu i leihau eich allbwn carbon deuocsid.

 

 

 

Erthyglau cysylltiedig

Cyflwyno Bin Môr Abertawe

19/02/2025

Darllen mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn dileu sbwriel cas!

24/01/2025

Darllen mwy
Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy