A A A

Ysgolion dros Gymru yn dechrau plannu miloedd o goed

Ysgol Gynradd Croesyceiliog yw’r cyntaf o 100 o ysgolion i ddechrau plannu coed ar eu tiroedd fel rhan o raglen ysgolion ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig Llywodraeth Cymru.

Rydym yn helpu ysgolion ar draws Cymru i blannu coed a gwrychoedd ar eu tiroedd er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Ganol mis Tachwedd, bu disgyblion yn Ysgol Gynradd Croesyceiliog yn plotio rhan o dir eu hysgol cyn palu’n ofalus a phlannu 60 o lasbrennau coed brodorol. Gyda chefnogaeth aelodau Cadwch Gymru’n Daclus, cymerodd disgyblion o bob oed ran yn y broses o blannu coed.

“Roeddwn i’n meddwl bod plannu’r coed yn brofiad ANHYGOEL, roeddwn i wrth fy modd. Dw i’n dwlu fod yn eco gyfeillgar a dw i wedi gwneud LLAWER o ffrindiau. Diolch am adael i mi a’m ffrindiau fod yn rhan o hyn”

Miley
Blwyddyn 5

“Pan oedden ni’n plannu’r coed, roeddwn meddwl ei bod hi’n hwyl ac yn diddorol achos plannon ni nhw’n wahanol i sut roeddwn i’n meddwl y byddwn ni wedi’i wneud.”

Taylor
Blwyddyn 5

Fel rhan o’r sesiwn plannu coed, cyflwynodd staff Eco-Sgolion weithdy hwyliog i ddysgu disgyblion sut i ofalu am eu coedwig newydd a deall pam fod coed mor bwysig i’r amgylchedd lleol. Bydd disgyblion yn cael y cyfle hefyd i ddarganfod mwy am rôl coed ar raddfa fyd-eang diolch i weithdy Maint Cymru.

“Rydym yn falch o fod yn rhan o raglen ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’, gan weithio mewn partneriaeth â Maint Cymru a Choed Cadw. Rydym wedi cael ymateb gwych i’r fenter newydd hon gan ysgolion ledled Cymru gyfan. Mae’n wirioneddol wych gallu gweithio gyda phobl ifanc i’w haddysgu sut i blannu, meithrin ac adnabod coed brodorol, yn ogystal ac i ddeall yr effaith gadarnhaol y maent yn ei chael yn cefnogi bioamrywiaeth a gweithredu dros ein hinsawdd.”

Bryony Bromley
Rheolwr Addysg Cadwch Gymru’n Daclus

Coedwig Genedlaethol i Gymru

‘Mae’r cynllun ‘Ein Coeden, Ein Coedwig  yn cefnogi cynllun Llywodraeth Cymru am Goedwig Cenedlaethol. Mae’r coedwig hwn wedi’i ddylunio i fod rhwydwaith ecolegol sy’n gwarchod natur a chredu coedwigoedd newydd tra’n adfer ein coedwigoedd hynafol unigryw.

Nid yw Goedwig Cenedlaethol Cymru ar gyfer ysgolion yn unig gan fod Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Coed Cadw yn rhoi coeden am ddim i bob cartref yng Nghymru. Ewch i’ch hwb hwb agosach am eich coeden.

A fyddai eich ysgol yn elwa o blannu coetir bach?

Mae nifer cyfyngedig o becynnau ar gael o hyd. Mae pob un yn cynnwys naill ai 60 neu 120 o lasbrennau, detholiad o offer, dau weithdy addysgol a chefnogaeth ymarferol o Cadwch Gymru’n Daclus.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud cais am becyn cyn iddi’n rhy hwyr! Cliciwch ar y ddolen isod i ddarllen y manylion a llenwi’r ffurflen gais syml ar-lein.

Tudalen Fy Nghoeden, Ein Coedwig

Erthyglau cysylltiedig

Gwneud cyfraniad i Cadwch Gymru’n Daclus am ddim gydag easyfundraising!

02/12/2024

Darllen mwy
Datganiad CDE Cadwch Gymru’n Daclus Tachwedd 2024

19/11/2024

Darllen mwy
Ieuenctid yn arwain y galw am weithredu hinsawdd yn COP Ieuenctid Cymru 2024

15/11/2024

Darllen mwy
Parciau Cymru’n cael eu cydnabod fel y ‘gorau o’r goreuon’

14/11/2024

Darllen mwy