Mae Bluestone Brewing Company wedi cael ei gydnabod am eu hymdrechion cynaliadwyedd gan mai canolfan ymwelwyr yw’r cyntaf yn y byd i ennill y wobr y ‘Goriad Gwyrdd. Adeiladwyd y micro-bragdy teuluol yn Fferm Tyriet, yn Sir Benfro, mewn adeiladau fferm sydd dros 300 mlwydd oed.
Beth ddenodd chi yn y lle cyntaf i’r Goriad Gwyrdd?
Er bod na lawer o achrediadau a gwobruau ar gyfer Bragu a Chwrw, roeddem eisiau rhywbeth fydde’n egluro mwy i’n cwsmeriaid am ein hymdrechion cynaliadwy. Hawdd iawn yw i unrhyw fusnes alw ei hunain yn Eco-Gyfeillgar, ond yn ein barn ni roedd yn bwysig ennill achrediadau a oedd yn ein profi’n effeithiol, ac yn ystyried pob agwedd o’n busnes. Mae cael achrediadau y Goriad Gwyrdd yn dangos i’n cwsmeriaid ac i fusnesau eraill ein bod yn ddifrif ynglyn a’r hyn a wnawn.
Dywedwch wrthym am unrhyw newidiadau a wnaethoch i gyfawni meini prawf y Goriad Gwyrdd?
Rydyn ni nawr yn meddwl yn llawer mwy gofalus am y cynnyrch rydym yn eu prynu ac o ble. O’r blaen, byddem yn arfer prynu pethau fel sebon dwylo ar gyfer y toiledau o’r archfarchnad leol heb rhoi gormod o sylw i’r math o sebon roeddem yn ei brynu, ond nawr rydym yn sicrhau ein bod yn darganfod cynnyrch sy’n eco-gyfeillgar ac yn dod o le sy’n gynaliadwy. Mae’r un peth yn wir unrhyw daflenni, posteri ac ati. Rydyn ni’n treulio llawer o’n hamser nawr yn siopa o gwmpas i sicrhau ein bod ni’n prynu popeth gan gyflenwyr cyfrifol.
Beth yn eich barn chi yw’r manteision o fod wedi cael eich achredu gyda gwobr y Goriad Gwyrdd?
Mae gennym bellach rywbeth sy’n ein gosod ar wahan i fusnesau eraill ac mae’n rhywbeth i ddal ein hunain yn atebol amdano. Mae cael gwobr y Goriad Gwyrdd/Allawedd Werdd yn golygu ein bod yn amau ein penderfyniadau yn rheolaidd ac yn eu gymharu yn erbyn meini prawf y Goriad Gwyrdd. Mae hyn yn golygu mwy na gallu galw ein hunain yn ‘Fusnes Gwyrdd’, rydym mewn gwirionedd yn cael ein harchwilio yn ol hyn ac felly mae’n sicrhau ein bod ni’n dal ati ar y llwybr iawn.
Sut ydych chi’n cynnwys elfen addysg y wobr yn eich busnes?
Mae gennym dudalen gyfan ar ein gwefan sy’n ymroddedig i gynaliadwyedd ac i hyrwyddo Y Goriad Gwyrdd yn rheolaidd ar draws ein cyfryngau. Mae gennym ni hefyd fanylion gwybodaeth a phosteri yn ein canolfan ymwelwyr er mwyn i’n cwsmeriaid gael cyfle i’w darllen.
Beth yw’r agwedd fwyaf heriol i’r wobr yn eich barn chi?
Cadw cofnodion! Fel busnes bach rydym yn brysur iawn ac felly mae cofio i gymryd darlleniadau mesurydd, ac ati, bob amser yn her i ni!
Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o deulu y Goriad Gwyrd, fel busnes mae wedi ein helpu i’n gwneud yn fwy amlwg na’r dorf ond hefyd i’n helpu ni ymdrechu i wella o ran cynaliadwy. Emily Hutchinson, Bluestone Brewing Company
Emily Hutchinson, Bluestone Brewing Company